Skip Ribbon Commands
Skip to main content

Aberaeron a dyffryn Aeron

Un o drefi mwyaf adnabyddus Ceredigion yw Aberaeron, gyda'i phensaernïaeth glasurol a gosgeiddig. Mae’n un o drefi ‘cynlluniedig’ cyntaf Cymru, a heddiw mae'n fwrlwm o ddigwyddiadau yn ystod yr haf, ac yn dref braf a hamddenol i siopa a mwynhau pryd o fwyd da.

 

Aberaeron - tref harbwr hanesyddol

Tref harbwr fu Aberaeron erioed. Cyn Deddf Seneddol yn 1807 roddodd ganiatad i'r Parchg. Alban Thomas Jones Gwynne wella’r harbwr, doedd prin son amdani ar fapiau o'r arfordir. Erbyn heddiw mae Aberaeron - un o drefi cynlluniedig cyntaf Cymru yn un o drefi mwyaf adnabyddus Cymru, gyda'i thai lliwgar gosgeiddig yn destun lluniau ymwelwyr o bob rhan o'r byd. 

Bu'n borthladd prysur nes i'r rheilffordd ddod i'r dref, a bu llongau'n hwylio oddi yma i bellafoedd byd. Sylwch ar enwau rhai o'r tai neu'r strydoedd i gael blas o'r llefydd y bu capteiniaid y llongau yma'n ymweld â nhw: Bari, Gambia, Melbourne, Newfoundland.

Sylwch ar y placiau, siap rhaw wedi eu gosod ar nifer o'r adeiladau, a gofynwch yn y Ganolfan Croeso am lyfryn llwybyr taith hanes Aberaeron fydd yn eich tywys o gwmpas lleoliadau hanesyddol y dref. 

Cymdeithasu yn Aberaeron

Mae hwylio'n rhan bwysig o fywyd trigolion y dref heddiw, ac mae'r clwb hwylio'n trefnu nifer o ddigwyddiadau hwyliog trwy gydol y flwyddyn, gan gynnwys regatta a gŵyl gwrw boblogaidd. 

Mae gan Aberaeron nifer o siopau annibynnol da yn cynnig crefftau, dillad, llyfrau a bwyd. Mae hefyd nifer o dafarnau a thai bwyta sy'n cynnig bwyd môr lleol blasus a hufen iâ. Un o uchelbwyntiau'r flwyddyn yw Gwyl Bwyd Môr Bae Ceredigion a gynhelir ar cei ar Sul cyntaf mis Gorffennaf bob blwyddyn. 

Mae mis Awst yn llawn bwrlwm digwyddiadau'r haf gyda chyffro a hwyl penwythnos y carnifal, tynnu rhaff ar draws yr harbwr ac ymgiprys twrnament rygbi 7-bob-ochr blynyddol y dref. Mae'r ardal yn enwog am fridfeydd cobiau a merlod Cymreig, a cynhelir Gwyl Cobiau a Merlod Cymreig ar 'y Cae Sgwar' yng nghanol y dref bob mis Awst. 

Ddiwedd mis Awst mae seremoni unigryw yn cael ei chynnal i nodi diwedd tymor pysgota mecryll.

Dyffryn Aeron

Gallwch fynd am dro ar hyd glan yr afon, a mwynhau coed Panteg sydd dan garped o gennin Pedr a chlychau’r gog yn y gwanwyn, ac mae llwybrau’n arwain oddi yma trwy goed derw ac ynn i Allt y Graig.

Mae dyffryn braf afon Aeron yn ymestyn o Aberaeron i Ystrad Aeron, ac yna ymlaen trwy Talsarn a Llangeitho i’w tharddle ar Y Mynydd Bach.

Mae llwybr troed a beicio hwylus ar hyd afon Aeron yn dilyn llwybr yr hen reilffordd o Aberaeron i Lanerchaeron gyda darnau byr o ffyrdd gwledig tawel ar y naill ben a’r llall. Os dymunwch gallwch ddilyn trywydd y rheilffordd bob cam i Lanbedr Pont Steffan​.

Mae sawl plasdy yn Nyffryn Aeron. Yn y ddeunawfed ganrif roedd teulu Alban Gwynne yn byw ym mhlasdy Tyglyn. Gallwch ymweld â gerddi muriog y plasdy sydd bellach dan ofalaeth ymddiriedolaeth.  Gerllaw mae gwesty Tyglyn Aeron, oedd, ar ddechrau'r ugenifed ganrif yn dŷ gwyliau i'r cyhoeddwr Geoffrey Faber.

Llanerchaeron​

Mae Llanerchaeron yn engrhaiff brin o stad uchelwyr o’r 18fed ganrif sydd wedi goroesi mwy neu lai’n gyfan. Cynlluniwyd plasty Llanerchaeron yn y 1790au gan y pensaer enwog, John Nash. Ynglwm â'r plasty mae cwrt sy’n cynnwys llaethdy, golchdy, bragdy, tŷ halltu, ac mae hyd yn oed ysgoldy bach.

Mae gerddi muriog y plasdy yn llawn cynnyrch ffres i'r gegin, coed ffrwythau, tai gwydyr a borderi blodau a pherlysiau. mae llwybrau braf i'w dilyn i'r llyn, ar hyd glan yr afon a thrwy'r weirgloddiau llawn blodau gwyllt.

Mae casgliad o adeiladau amaethyddol arbennig yng nghlôs y fferm, peiriannau o'r oes o'r blaen ac mae bridiau arbennig o anifeiliaid fferm i'w gweld gan gynnwys defaid Llanwenog a gwartheg duon a moch Cymreig.

Nepell, mae gwinllan Llaethliw, a chapel Neuaddlwyd, lle cewch hanes y cenhadon aeth i Madagascar. 

Ystrad Aeron

Mae Theatr Felinfach yn Ystrad Aeron yn ganolfan ieuenctid ac yn ganolbwynt i ddiwylliant a’r iaith Gymraeg yng Ngheredigion.

Sefydliad arall sydd a'i gartref yn y dyffryn yw Cymdeithas Cobiau a Merlod Cymreig. Ymhellach ar hyd y dyffryn yn Nhalsarn, arferid cynnal ffair wartheg a cheffylau pan oedd y pentref yn fan aros ar lwybr y porthmyn. Heddiw cynhelir Sioe Meirch Llambed yma ym mis Ebrill.

Cysylltir Talsarn hefyd gyda'r bardd Dylan Thomas​, fu'n aros yn yr ardal, ym Mhlas y Gelli, yn ystod y Rhyfel. Enwodd ei unig ferch, Aeronwy, ar ôl yr afon.

Plasdy arall sydd yn Nhalsarn yw Llanllyr, sydd bellach yn adnabyddus am y dŵr ffynnon naturiol a gynhyrchir yma. Lleiandy​ oedd ar y safle 'nôl yn y ddeuddegfed ganrif. Fe'i sefydlwyd yn 1180 gan yr Arglwydd Rhys, ac roedd yn gysylltiedig ag abaty Ystrad Fflur, tua deunaw milltir i'r dwyrain. Mae gerddi plasdy Llanllyr ar agor yn achlysurol.​​​

Pen y dyffryn a Llangeitho​

Yn Nhalsarn gallwch droi o'r ffordd fawr a dilyn yr afon am bentref Llangeitho. Tyrrai pobl yma yn eu miloedd o bob rhan o Gymru yn ystod diwygiad y 18fed ganrif i wrando ar bregethau bywiog a brawychus Daniel Rowland oedd yn bygwth tân a brwmstan yng nghapel Gwynfil, lle saif cofgolofn hardd iddo.

Bwthyn anghysbell ger Llangeitho oedd canolbwynt ‘Operation Julie’, ymchwiliad gan heddlu'r Deyrnas Unedig i ddau gylch cyffuriau oedd yn cynhyrchu LSD yn y 1970au. Canlyniad yr ymgyrch hon gan 11 o luoedd heddlu oedd chwalu un o’r cylchoedd cynhyrchu LSD mwyaf yn y byd.​