Skip Ribbon Commands
Skip to main content

Pontarfynach

Yn croesi Afon Mynach (sy’n isafon i afon Rheidol), mae tair pont ar wahân wedi’u codi ar ben ei gilydd rhwng yr 11eg ganrif a’r 19eg. Yn ôl y chwedl, codwyd y bont wreiddiol gan y Diafol ei hun yn gyfnewid am enaid y sawl cyntaf i groesi’r bont. Ond cafodd ei dwyllo o’i wobr gan hen wraig gyfrwys a daflodd damaid o fara ar draws y bont. Rhedodd ci’r hen wraig dros y bont ar ei ôl, felly dim ond enaid y ci oedd yn eiddo i’r Diafol.

Pontarfynach

Un o’r ffyrdd gorau i ymweld â Phontarfynach yw teithio ar y trên bach ar lein hanesyddol Rheilffordd Cwm Rheidol, a agorwyd rhwng Aberystwyth a Phontarfynach ym 1902. Mae'r trên yn gadael Aberystwyth am Bontarfynach ddwywaith y dydd rhwng y Pasg a diwedd mis Hydref.

Erstalwm roedd yr adal yn rhan o stad enfawr Hafod Uchtryd a oedd yn eiddo i Thomas Johnes.  Mae Pontarfynach wedi denu ymwelwyr ers canrifoedd, ac yn eu plith yr awdur George Borrow a gofnododd ei ymweliad yn ei lyfr Wild Wales (1854).​

Mae Pontarfynach ag ardal mwynfeydd Mynyddoedd y Cambrian yn ddau o 'sêr' cyfres dditectif S4C 'Y Gwyll'

Am fanylion am lefydd i aros yn ardal Pontarfynach, edrychwch ar ein tudalennu llety.​