Skip Ribbon Commands
Skip to main content

Tregaron

Tref farchnad hanesyddol yw Tregaron a man strategol i’r porthmyn wrth fynd â’u hanifeiliaid o orllewin Cymru i farchnadoedd yn Lloegr. Cyn y rheilffyrdd, deuid â gwartheg i Dregaron o sawl man yn y gorllewin cyn eu gyrru dros y tir ar Ffordd y Porthmyn dros fynyddoedd Elenydd i farchnadoedd yn Lloegr. Cam cyntaf ffordd y porthmyn yn wreiddiol oedd y ffordd fynydd fendigedig o Dregaron i Abergwesyn.  

tregaron

Tregaron

Byddai’r porthmyn yn teithio ryw ddwy filltir yr awr, neu 15 milltir y dydd, gan adael i’r gwartheg a’r defaid yn eu pedolau bori ar eu taith. Yn ôl y sôn âi rhyw 30,000 o wartheg y flwyddyn drwy Dregaron a thros ffyrdd y porthmyn i fwydo dinasoedd newydd Lloegr â digonedd o gig eidion da.

Roedd pwysigrwydd masnachol Tregaron yn gymaint nes agor ‘Banc y Ddafad Ddu’, sef Banc Aberystwyth a Thregaron, ym 1810 a chyhoeddi ei arian papur ei hun. Roedd nifer y defaid du ar y papur yn sefyll am nifer y punnoedd (1, 2, 10 ac ati). Gellir gweld enghreifftiau o’r arian papur gwreiddiol yn Amgueddfa Ceredigion.

Ar y sgwâr mae cerflun i goffáu Henry Richard, sylfaenydd ac ysgrifennydd cyntaf Cynghrair y Cenhedloedd, rhagflaenydd y Cenhedloedd Unedig. Ac yntau’n un o hoelion wyth y mudiad dirwest, mae cerflun Richards wrth reswm yn sefyll â’i gefn tuag at dafarn y Talbot.  

Un arall o feibion enwog y dref yw’r lleidr pen ffordd Twm Siôn Cati. Diolch i nofelau T. Llew Jones mae’n dal i fod yn arwr gan blant Cymru hyd heddiw.

Heddiw mae Tregaron yn ganolfan ar gyfer trotian​ ceffylau a chartref Canolfan Aur Cymru sy’n gwerthu gemwaith aur o ddyluniad Celtaidd.

Heb fod ymhell o Dregaron ar y ffordd at Lyn Brianne mae capel anghysbell Soar y Mynydd – y capel mwyaf tangnefeddus yng Nghymru o bosib. Fe’i codwyd ym 1822 i ddarparu addoldy i’r ffermwyr a’r porthmyn.​

Mae Tregaron yn dref 'Croeso i Gerddwyr' a chynhelir Gwyl Gerdded Bro Tregaron bob mis Mai. Am fanylion am lefydd i aros yng Ngheredigion, edrychwch ar ein tudalennau llety.​​​​​​