Skip Ribbon Commands
Skip to main content

Aberoedd



Mae taith afonydd Ceredigion i’r mor yn fyr a chyflym, ond maea’r ddwy afon fawr sy’n ffurfio ffiniau naturiol u sir i’r de a’r gogledd – y Teifi a’r Ddyfi  - gyda aberoedd llydan sy’n noddfa gyfoethog i fywyd gwyllt. 
Mae’r Teifi, o’i tharddiad i’r mor wedi ei dynodi yn Ardal Cadwraeath Arbennig ac mae tir cors a morfa aber y Teifi yn ardal o ddiddordeb gwyddonol arbennig (SSSI) gyda un o’r ardaloedd mwyaf o hesg y gellir ymweld ag ef yn hawdd ar hyd llwybr pren.  Rheolir y warchodfa natur gan Ymddiriedolaeth natuar De a Grollewin Cymru, ac mae yno ganolfan arabennig lle gallwch ddysgu am y warchodfa a’i phblogaeth o las y dorlan, crychyddod, dyfrgwn  a hyd yn oed ei gyrr o byffalo, sy’n cael eu defnyddio i  gadw’r pyllau’n glir o dyfiant er budd amphibiaid a phryfetach.
Mae’r ardal fwyaf o forfa heli yng Ngheredigion ar lannau’r Ddyfi yn Ynyslas ac Ynyshir. Crybwyll yr enwau hyn bod y tir o gwmpas yr ‘ynysoedd’ o dan ddwr yn aml – dwr heli a chroew. 
Mae’r morfeydd heli yn for o glustog mair yn y gwanwyn, tra bod llyrlys a serenllys y morfa yn blodeuo yn yr haf.   Mae’r gwlyptiroedd yn lle gwych i weld cornchwiglod, pibydd coesgoch ac adar dwr eraill. Mae gwarchodfa’r RSPB yn Ynyshir yn lloches i heidiau o adar drycin manaw ddiwedd haf a gwyddau ymfudol o ‘r ynys werdd yn y gaeaf – yr unig fan yng Nhymru a Lloegr maent yn ymweld a hi.  Mae llwybrau a llwybrau pren ar draws y warchodfa sy’n arwain I saith cuddfan wahannol.  Gerllaw mae proseict Gweilch Dyfi, lle gallwch wylio’r ‘eryrod mor’ trawiadol yma trwy we-gamerau.