Skip Ribbon Commands
Skip to main content

Creigresi a sarnau

Mae creigresi a chefnenni tywod Ardal Cadwraeth Arbennig Bae Ceredigion yn gynefin cyfoethog i fywyd gwyllt.  Mae’r creigresi carregog yn ymestyn i’r gogledd o Ynys Aberteifi bron yn ddi-dor hyd at Ynys Lochtyn, i’r gogledd o Langrannog, tra bod cyfres arall yn ymestyn tua Aberarth i’r gogledd. Mae’r creigresi yn gartref i anifeiliaid prin fel y bedrysen mantis a chramenogion, molwsgiaid a gwymon lliwgar. Mae’r creigresi biogenig yn cael eu creu gan yr anifeiliaid eu hunain, fel y mwdyn tywod ‘sabellaria alveolata’.

Nodwedd arall o arfordir Ceredigion yw’r sarnau a thraethalenni. Gwyrwyd yr afon Ystwyth gan draethlin Tanybwlch, tra bod pentref y Borth wedi ei adeiladu ar hyd traethlin arall.  Mae Sarn Ddewi a Sarn Cadgwan o’r golwg o dan ddyfroedd de Bae Ceredigion, ond mae Sarn Cynfelyn i’w gweld yn ymestyn am bron i 11 cilomedr i’r mor o Wallog, rhwng Clarach a’r Borth.  Mae Sarn Cynfelyn yn cael ei gwarchod fel rhan o Ardal Cadwraeath Arbennig Pen Llyn a’r Sarnau.  Marianau a grewyd gan rewlifoedd yn cilio ar ddiwedd yr oes ia ddiwethaf yw’r sarnau. Gan eu bod yn edrych fel sarn neu furiau a gafodd eu hadeiladu, credwyd mai dyma oedd muriau tiroedd coll 'Cantre'r Gwaelod'.