Skip Ribbon Commands
Skip to main content

Ogofau, pyllau a rhaeadrau

Mae arfordir Ceredigion yn nodedig am ffurfiau hynod y creigiau. Fe’u ffurfiwyd gan symudiadau seismig y ddaear, rhew a dwr. Ar y traethau gellir gweld cerrig llaid gwahanol liwiau wedi eu plygu,  a chreithiau o gerrig gwynion drwyddynt. Mae Moel y Mwnt yn fryncyn pigfain o gerrig clai a cherrig llaid plygiedig. Diolch i’r calch yn y garreg glai, mae cennau lliwgar yn ffynnu yno yn yr awyr lan.

Ymunwch a thaith dywys, neu cymerwch eich amser i archwilio pyllau creigiau traethau Aberporth, Tresaith, Llangrannog, Cwmtydu, Llanon, Llanrhystud ac Aberystwyth a darganfod gwahanol rywogaethau o wymon a physgod cregyn fel cogwrn, gwichiaid a chregyn gleision yn ogystal a ser mor, crancod, corgimychiaid a man bysgod.

Mae sawl rhaeadr yn disgyn yn syth i’r traeth ar hyd arfordir Ceredigion. Mae’r un mwyaf trawiadol i’w weld ger Tresaith, lle cwymp y dwr dros y clogwyn i’r mor, wedi i’r afon gael ei gwyro gan rewlif 10,000 mlynedd yn ol. Ymddenys rhaeadr arall. 150 troedfedd o uchder, ar ol glaw trwm dros Craig Ddu, ger Cei Bach, i’r gogledd o’r Cei Newydd. Rhaeadr arall gwerth ei weld yw rhaeadr sy’n disgyn i’r mor ger Wallog, rhwng Aberystwyth a’r Borth.

Yn Llangrannog a Chwmtydu mae’r creigiau wedi eu plygu a’u herydu gan donnau’r mor i greu ogofau.  Byddai smyglwyr slawr dydd yn defnyddio rhain i guddio a storio eu hysbeilion.

Mae’r ogofau hyn, sawl un ohonynt o’r golwg o dan y dwr, yn hoff guddfanau morloi i fagu eu lloi bach newyddanedig.

Dim ond o’r mor y gellir gweld rhai ogofau a rhaeadrau, ond gellir gwneud hynny’n ddiogel mewn cwch – mae sawl cwmni’n cynnig tripiau ar hyd y glannau o’r Cei Newydd ac o Aberteifi.