Skip Ribbon Commands
Skip to main content

Y Borth

Mae môr bas a thraeth eang y Borth - tair milltir o dywod euraid - yn golygu ei fod yn arbennig o boblogaidd ymhlith hwylfyrddwyr yn ogystal â theuluoedd gyda phlant bach.

Traeth Borth

Borth

Mae safleoedd o harddwch naturiol yn amgylchynu'r Borth, ac mae golygfeydd gwirioneddol wych i’w gweld ar bob tu. Yn benodol, mae mawnog enfawr Cors Goch Fochno’n rhan o Fiosffer Dyfi, yr unig warchodfa Biosffer UNESCO yng Nghymru, a cheir Gwarchodfa Natur Genedlaethol Dyfi a chanolfan ymwelwyr yn Ynyslas. Aiff Llwybr Arfordir Cymru drwy bentref y Borth.

Bydd trên rheilffordd arfordir y Cambrian yn aros yn y Borth ac mae hostel ieuenctid yn y pentref. I ofalu am ddiogelwch y traeth mae yma orsaf bad achub, ac ymhlith yr atyniadau lleol mae Chlwb Golff y Borth ac Ynyslas, un o gyrsiau glan môr hynaf Cymru.​​​​

Gwyliwch allan am y goedwig hynafol ar y traeth rhwng y Borth ac Ynyslas. Yn ô​l y chwedl, mae Cantre'r Gwaelod wedi ei gladdu o dan y tywod yn y fan hon.

Gwobrau
  •  Gwobr Glan Môr 2017
  •  Baner Las 2017
  • Cyfleusterau
    •  Maes parcio
    •  Dŵr yfed
    •  Cawod
    •  Toiled i bobl anabl
    •  Canolfan Croeso
    •  Offer achub bywyd
    •  Achubwyr bywyd    01/07/17 - 03/09/17
    •  ​Cyfleusterau newid
       cewyn babi
    •  Rheolau ac is-ddeddfau
       mordwyo mewn grym
    •  Cyfyngiadau cŵn ar rhan o'r traeth 1 Mai - 30 Medi​
    Map o'r traeth