Skip Ribbon Commands
Skip to main content

Cwmtydu

​Mae Cwmtydu mewn lleoliad hardd iawn gyda thraeth distaw a harbwr naturiol a fu gynt yn guddfan i smyglwyr. Yn y clogwyni ar y naill ochr a’r llall i’r traeth mae ogofâu a ddefnyddid erstalwm i guddio brandi Ffrengig a halen gwerthfawr nes roedd hi’n ddiogel i’w cludo i’r tir mawr ar gefn ceffyl.

Traeth Cwmtydu

Cwmtydu

Mae morloi’n gyffredin ar y creigiau a’r ogofâu. Amcangyfrifir bod rhyw 5000 o forloi llwyd yng ngorllewin Cymru a chaiff eu lloi bach eu geni rhwng Medi a Rhagfyr. Mae morloi’n treulio 80% o’u hamser dan y dŵr ond maen nhw’n aml i’w gweld yn gorffwys ar y creigiau yn y bae cyn mynd allan i’r môr i hel bwyd.

Ar draeth Cwmtydu ceir tywod glân da a phyllau yn y creigiau, a lle rhagorol i bysgota am forgwn, draenogiaid, lledod amrywiol, penfras bychain, gwrachod, chwyrnwyr, ac ambell gi glas.

Cafodd hen odyn galch Cwmtydu ei hadfer yn ddiweddar. Fe’i defnyddid erstalwm i losgi calchfaen a gâi ei gludo mewn cwch o Sir Benfro a Chernyw i’w ddefnyddio gan ffermwyr i wrteithio’r tir. ​I’r gogledd o Gwmtydu saif Castell Bach, ac olion caer Geltaidd o'r oes haearn a’r drydedd ganrif cyn Crist.

Gwobrau
  • ​ 
  • Cyfleusterau
  •  ​Maes parcio
  •  Toiled
  •  Ffôn argyfwng
  • Croeso i gŵn​ ar y traeth hwn