Skip Ribbon Commands
Skip to main content

Llanon & Llansantffraed

Dan feini mawr, traeth cerrig yw traeth Llanon, gydag ambell lecyn tywodlyd yn ymddangos pan fydd y llanw allan. ​Mae pentref Llanon wedi’i enwi ar ôl y santes Non, mam Dewi Sant, a gafodd ei eni tua 500 OC a’i fagu yn yr ardal yma.

Traeth Llanon

Hanes Llanon

Sefydlwyd y pentref drwy siartr ym 1215 a nodai fod yr Arglwydd Rhys ap Gruffudd yn rhoi’r tir i Esgob Tyddewi. Wedyn trosglwyddwyd y tir i fynachod Sistersaidd Ystrad Fflur ac ar linell y traeth, fel yn Aberarth, gwelir eu trapiau pysgod canoloesol ger Plas Morfa yn Llanon.

Hyd yn oed cyn hynny, roedd Eglwys Llansantffraed a thir i’r gogledd o afon Peris wedi’i roi i Urdd Marchogion Ysbyty Sant Ifan a Jerwsalem. Yn anarferol, mae’r eglwys hon wedi’i chysegru i santes arall, sef y santes Ffraed o Iwerddon, gan adlewyrchu’r cysylltiadau rhwng y ddwy wlad a phwysigrwydd masnach ar draws Fôr Iwerddon.

Gwneid defnydd cyson o’r darn tir ffrwythlon a gwastad rhwng Llanon a Llanrhystud i dyfu haidd – a arweiniodd at ddigonedd o fragu anghyfreithlon yn nechrau’r 19eg ganrif. Efallai mai dyna pam y bu i sawl capten llong ymddeol i godi tŷ sylweddol yn Llanon.

Wyddoch chi?
​​O bentref ychydig o filltiroedd i mewn i’r tir o Lanon, sef Bethania, y daw’r dŵr ffynnon a geir ym mhoteli glas enwog Tŷ Nant.​
Cyfleusterau
  •  Offer achub bywyd
  •  Croeso i gŵn ar y traeth hwn​
  • Map o'r traeth