Skip Ribbon Commands
Skip to main content

Cefn gwlad Ceredigion

Dyma dirlun traddodiadol tlws o ffermydd teuluol, trefi marchnad bychain ond bywiog, bryniau a mynyddoedd a chymoedd a dyffrynnoedd, pob un â’i gymeriad unigryw ei hun. 

Gologfeydd, hanes a bywyd cefn gwlad byrlymus

Dewch i fwynhau bwrlwm cefn gwlad Ceredigion mewn gwyliau, sioeau, rasus a gweithgareddau o bob math. Arhoswch ar fferm, dilynwch Lwybr Celf Ceredigion i ddarganfod artistiaid yn y cynefin sydd yn eu hysbrydoli, neu mwynhewch dangnefedd rhai o lefydd mwyaf llonydd a sanctaidd Cymru.

Crewyd tirwedd Ceredigion, o gopaon Mynyddoedd y Cambria a'c arfordir dramatig bae Ceredigion gan rewlifoedd a gerfiodd geunentydd dyfnion yr afonydd a rhaeadrau mwyaf trawiadol Cymru, a chario cerrig i'r môr i greu sarnau chwedlonol.  

Gadawodd y Celtiaid, Rhufeiniaid, Cristnogion cynnar, mynachod Sistersiaidd, porthmyn a mwyngloddwyr eu gwaddol ar eu hôl – yn feini hirion, caerau Oes yr Efydd ac Oes yr Haearn, adfeilion rhamantaidd a llwybrau mynyddig.  Porir y mynydd-dir gan wartheg duon Cymreig, defaid a merlod mynydd.  Ceredigion yw cartref swyddogol ac ysbrydol y merlyn Cymreig. Gallwch ymweld â bridwyr ceffylau enwog, gweld y stalwyni yn sioe meirch Llambed yn Llanllyr, neu ym mharêd enwog Dydd Sadwrn Barlys yn Aberteifi.  Cynhelir Gŵyl Merlod Aberaeron bob dwy flynedd ac mae merlod a cheffylau yn rhan bwysig o bron pob sioe yng Ngheredigion. Gallwch weld defaid cynhenid Ceredigion - defaid Llanwenog, moch Cymreig a'r gwartheg duon ar ystad Llanerchaeron a chrwydro'r gerddi, y dolydd a'r ty - lleoliad y gyfres fictoriannaidd Y Plas.

Mae bryniau prydferth Ceredigion yn atsain gyda hanes arwyr, cewri a chymeriadau chwedlau hynafol a straeon cyfarwydd. Pwy a ŵyr, efallai eu bod yn dal i grwydro’r bryniau a chilfannau’r arfordir, yn enwedig ar nosweithiau clir, pan fydd yr awyr dywyllaf yn ildio i olygfa o sêr gloywon, pefriol a phlanedau disglair.