Skip Ribbon Commands
Skip to main content

Bywyd gwyllt cefn gwlad Ceredigion

O’r môr i’r mynydd, mae cynefinoedd naturiol Ceredigion yn cynnig cyfleoedd heb eu hail i weld amrywiaeth o fywyd gwyllt. Dewch am dro ar hyd llwybr yr arfordir, dilynwch lwybrau glannau rhai o’n hafonydd enwog, neu dewch am dramp ar draws rhostiroedd Elenydd neu Bumlumon. Mae canolfannau bywyd gwyllt i ymweld â nhw, a chamerâu cylch cyfyng yn gwylio nythod, neu gallwch ymuno â thaith gerdded gyda thywysydd. Gwelwch ein syniadau ar sut i wneud y gorau o gefn gwlad Ceredigion isod.

 

Gall ymylon ffyrdd fod yn llawn blodau a gweiriau tlws yn y gwanwyn a'r haf. Ym mysg y blodau nodweddiadol mae briallu a llygad ebrill melyn, gwyn blodau'r gwynt, botwm crys agwyn y cloddiau, coch gwas y neidr a bysedd y cwn a glas clychau'r gog. Chwiliwch hefyd am big y gog a thegeiriannau. Ar dir mwy serth a mynyddig, gwelwch glych yr eos a clafrlys y mynydd, ynghyd a llus a grug. Nytha adar fel coch y berllan a melyn yr eithin yn y perthi pen clawdd, triga madfallod mewn tyllau islaw ac uwchben, yn gwylio o ben polion teliffon, mae'r boda

Mae clychau’r gog yn nodwedd o goedlannau dyffrynnoedd afonydd Ceredigion yn y gwanwyn. Yn nyffryn yr Aeron ewch i goed Panteg ar gyrion tref Aberaeron, neu goedwig oedd ystad Llanerchaeron. Yn nyffryn y Teifi mae coedydd cymunedol Longwood, ger Llambed, tra bod coedydd Nantoes yn nyffryn yr Ystwyth a Pharc Penglais ar gyrion tref Aberystwyth oll yn esiamplau o’r wledd wanwynol sydd i’w mwynhau ar draws y sir. Blaswch suran y coed, mefus gwyllt neu fafon yn yr haf, a mwynhewch wledd o liwiau dail a ffyngau yn yr hydref. Mwynhewch dro yn y coed gyda’r mapiau yn ein hadran cerdded, neu chwiliwch yn yr adran digwyddiadau am daith dywys.

Ymysg adar coed Ceredigion mae’r gwibedog brith, tingoch, sgrech a chnocell y coed, titw cynffon hir, a theloriaid y cnau a’r coed yn ogystal a boda a chigfrain.

Gwelir ysgyfarnogod ar gyrion y coedwigoedd; chwiliwch am y ceirw ger Llechryd yn nyffryn y Teifi, ac yn uchel ym mynyddoedd y Cambria mae poblogaeth fechan o’r bele, a hyd yn oedd wiwerod coch.​​​

Deg syniad am sut i weld bywyd gwyllt Ceredigion

Dyma ddeg syniad sut i fynd ati i ddarganfod bywyd gwyllt Ceredigion ar ei orau:

Drwy gydol y flwyddyn mae cynefin y goedwig yn newid, gyda thrysorau wahanol i’w darganfod, o flodau gwyllt, rhedyn a mwsog yn ogystal ag adar ac anifeiliaid. Mae llawer o goedydd Ceredigion o leiaf 500 mlwydd oed, gyda derw, bedw, criafol a chyll. Mae Coed Einion yn Eglwysfach a Choed ceunant Rheidol yn Ardaloedd Cadwraeth Arbennig.

​Canolfannau bywyd gwyllt yw’r llefydd i ddarganfod bywyd gwyllt, o dwyni tywod Ynyslas i warchodfa natur yr RSPB gerllaw yn Ynyshir (cartref rhaglen ‘Springwatch y BBC yn 2013); canolfan goedwig Bwlch Nant yr Arian neu ganolfan bywyd gwyllt Ymddiriedolaeth Natur Gorllewin Cymru ar y Teifi rhwng Cilgerran ac Aberteifi. Mae’r Lle Cychod yn y Cei Newydd yn cadw golwg dros Ardal Cadwraeth Arbennig Bae Ceredigion, ac mae teithiau tywys ar y traeth, camera cylch cyfyng i wylio’r adar ar y clogwyni a gweithgareddau eraill i gadw’r plant yn ddidig. Chwiliwch ein rhestr digwyddiadau i weld beth sydd ymlaen.
​Ar hyd Llwybr Arfordir Ceredigion mae sawl man penigamp i wylio adar, dolffiniaid, llamhidyddion a morloi. Ewch i Aberporth, Moel y Mwnt, Ynys Lochtyn neu hen loches gwylwyr y glannau ar Graig yr Adar ger y Cei Newydd. Ewch am dro ar hyd Promenâd Aberystwyth fel mae’r haul yn machlud yn yr hydref a’r gaeaf i weld heidau o adar yr eira yn troelli a heidio yn yr awyr cyn dod i mewn i glwydo yng nghysgod y pier. Ger aber y Ddyfi mae gwarchodfa adar Ynyshir yr RSPB yn lle ardderchog i weld adar ymfudol y gaeaf. I gael cip ar y diweddaraf ar beth a weldwyd gan adarwyr Ceredigion yn ystod y flwyddwn bwrwch olwg ar Ceredigion Bird blog.
​Yng Nhanolfan goedwig Bwlch Nant yr Arian gallwch wylio bron i 200 barcud coch yn plymio a chipio bwyd yn yr awyr. Yn ogystal a’r barcutiaid, gellir gweld neu glywed o leiaf 40 math arall o adar yn y goedwig, gan gynnwys cnocell y coed, pila gwyrdd a chroesbig. Mwynhewch lwybrau’r goedwig, tro o gwmpas y llyn i’r guddfan gwylio adar, neu gwyliwch yr adar ar y bwrdd adar enfawr ger y caffi.
​​Glannau’r Afon Aeron yw un o lwybrau mwyaf poblogaidd y sir, yn ymwlybro dan gysgod coed rhwng tref harbwr Aberaeron ag ystad hanesyddol yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Llanerchaeron; darganfyddwch lwybrau mewn coedlannau glan afonydd Rheidol ac Ystwyth, ar droed neu ar feic, a mwynhewch y perthi llawn blodau, o glychau’r gog yn y gwanwyn, gwyddfid a llus yr haf i fwyar duon yr hydref.
​Rhed Rheilfford Cwm Rheidol drwy warchodfa natur genedlaethol Coed Rheidol ac mae gorsafoedd cyfleus ar gyfer ymweld â rhaeadrau a goredi’r Rheidol yn ogystal â’r rhaeadrau enwog ar ben y daith ym Mhontarfynach.
​Gwasaneithir Biosffer Dyfi gan lein reilffordd y Cambrian sydd â gorsafoedd cyfleus ar gyfer traethau'r Borth ac Ynyslas a llwybrau pren Cors Fochno.  Gallwch weld bywyd gwyllt o bob math o'r trên.  O Aberystwyth neu Fachynlleth mae modd dal bws i ymweld â chanolfan Gweilch y Ddyfi.
​Tirwedd hanesyddol yr Hafod yng Nghwm Ystwyth yw un o'r esiamplau gorau o dirwedd 'Pictiwresg' y 18fed ganrif. Cynllunwyd y direwdd wreiddiol gan Thomas Johnes, ac mae nawr yn cael ei hadfer i ddatgelu llwybrau, gerddi, rhaeadrau cudd a gologfeydd godidog ar draws y cwm. Mae coedwigoedd Ceredigion yn llawn bywyd gwyllt, gyda llecynau cysgodol llawn rhedyn a mwsog, a blodau'r gwanwyn a lliwiau dail a madarch yr hydref yn dod a newid i bob tymor.
Profwch awyrgylch ryfeddol y gyforgors. O’i gweld o bell mae’r lliwiau cochlyd yn taro’r llygad ynghanol glesni’r caeau a’r coedwigoedd.  Ond os craffwch yn fanwl, fe welwch amrywiaeth syrfdanol o blanhigion ac yn eu mysg anifeiliad ac adar diddorol. Mae’r lloches gwylio adar gyda’i ffenestri mawr gwydr yn llecyn arbennig i fwynhau’r tawelwch a gwylio adar. Dyma hefyd un o’r rhannau gorau i seiclo ar hyd Llwybr yr Ystwyth, sy’n ymlwybro heibio llyn a grewyd gan rew oes yr ia. 
​Darganfyddwch fwy am fioamrywiaeth Ceredigion, meddyginiaethau traddodiadol sy'n defnyddio planhigion, sgiliau cefn gwlad byw' gynaladwy yn eco-lodge a gwarchodfa natur Fferm Denmark ger Llanbedr Pont Steffan. Neu ymunwch a warden neu dywysydd enu fforwr a chogydd am wledd wedi ei chasglu o'r gwyllt.
​​Mae gerddi diddorol a thyfwyr planhigion, o lethrau’r mynydd i lan y môr, ar agor i ymweld â nhw ar draws Ceredigion, fel gardd Cae Hir sy'n hafan llawn patrwm a lliw drwy’r flwyddyn, wedi ei datblygu gan deulu â’u gwreiddiau yn yr Iseldiroedd. Gallwch hefyd ddewis gardd i ymweld â hi o raglen y National Garden Scheme. Neu beth an ymweld â fferm – mae gan sawl un lwybrau i’w dilyn, neu gallwch gyfuno ymweliad â fferm a gerddi ar ystad hyfryd Llanerchaeron, fferm o’r 18fed ganrif, gyda gardd furiog, dolydd glan afon a choedwig llawn blodau yn y gwanwyn.