Skip Ribbon Commands
Skip to main content

Dyffryn Aeron

Mae dyffryn yr afon Aeron yn ymestyn o dref harbwr liwgar Aberaeron, i'w tharddiad yn Llyn Eiddwen ar y Mynydd Bach. Mae’r afon, sy’n llawn pysgod, yn ymlwybro trwy ddolydd braf Ciliau ac Ystad Aeron cyn troi yn Nhalsarn am Llundain Fach, Abermeurig a phentref Llangeitho.

Dyffryn ffrwythlon yr Aeron

Mae'r enw 'Aeron', yn awgrymu ffrwythlondeb y dyffryn, sy'n amlwg yn ei gerddi a'r traddodiad o gynhyrchu a thrin llaeth yn y dyfryn. 

Beth am ymweld â gerddi dyffryn Aeron, gan gynnwys y gerddi muriog Llanerchaeron a Thyglyn Aeron gerllaw. Nepell mae gerddi Cae Hir, a ddatblygwyd gan deulu a’u gwreiddiau garddwriaethol yn yr Iseldiroedd, a gerddi sydd ar agora yn achlysurol, fel Llanllyr, sydd ar safle lleiandy oedd yn gysylltiedig ag ystrad Fflur. 

Y ffynhonnau naturiol sy'n codi o dywod rhewlifol dyffryn yr Aeron yw’r ffynhonnell ar gyfer dŵr potel Llanllyr.​ Gallwch hefyd ymweld â Llaethliw - un o winllannoedd mwyaf newydd Cymru yn Neuaddlwyd, ar draws y dyffryn i Lanerchaeron. 

Enwodd Dylan Thomas ei unig ferch Aeronwy ar ôl yr afon Aeron.  Tra yn yr ardal byddai Dylan yn manteisio ar y cyfle i ymweld a beirdd gwlad yr ardal am sgwrs. Tybed os mai enwau rhai o’r ffermydd yn y dyffryn a ysbrydolodd deitl y ddrama ‘Under Milk Wood’, a gyfieithwyd i’r Gymraeg fel ‘Dan y Wenallt’?

Mae'r hen reilffordd a oedd yn galluogi Dylan i deithio rhwng Dyffryn Aeron a Llundain bellach yn lwybr cerdded braf rhwng Aberaeron a Llanbedr Pont Steffan.

Llanerchaeron - ystad hanesyddol

Mae Llanerchaeron yn un o nifer o ystadau bychain yn Nyffryn Aeron. Mae arolygon archeolegol wedi darganfod bod yma unwaith bentref canoloesol, ond does dim wedi goroesi ond yr eglwys o’r 13eg ganrif sydd wedi ei chysegru i Sant Non, mam Dewi Sant. Erbyn hyn mae'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn berchen ar y stâd. Mae plasdy Llanerchaeron yn enghraifft dda o blasdy bach a thirwedd 18fed ganrif. Dyluniwyd y plasdy gan y pensaer Eingl-Gymreig, John Nash, aeth ymlaen i ddylunio nifer o adeiladau nodedig, gan gynnwys palas Buckingham a phafiliwn Brighton. Mae plasdy Llanerchaeron yn fwy cymedrol, ond mae'n arddangos llawer o nodweddion arddull nodedig Nash.

Mae ardal gwasanaethau plasdy Llanerchaeron gyda llaethdy, tŷ golch, bragdy a stafell halltu sydd wedi goroesi , tra bod clos y fferm yn cynnwys nifer o adeiladau cynnar hefyd.Mae'r tiroedd yn cynnwys gerddi cegin muriog, llyn a pharcdir addurniadol yn ogystal â fferm sydd a diadell o ddefaid Llanwenog, gwartheg Duon Cymreig, dofednod a moch Cymreig.

Y Mynydd Bach

Mae'r Mynydd Bach (mynydd bach) yn sefyll rhwng môr a rhostiroedd Mynyddoedd Cambria. Mae afon Arth yn llifo i Fae Ceredigion yn Aberarth, ychydig i'r gogledd o Aberaeron. Mae'n codi ar y rhos ger Bethania, lle mae'r ffynnon a’r gwaith potelu ar gyfer dŵr Ty Nant, sy’n adnabyddus am ei boteli lliw glas a llugaeron arbennig.

Mae hanes diddorol i’r Mynydd Bach – mae yno olion beddrodau o’r oes Efydd, adfeilion ‘castell Y Sais Bach’ a Chofadail Heddwch, sy’n dwyn i gof gwrthryfel yn erbyn cau tir comin. Yma mae nifer o dai unnos a bythynnod a fu unwaith yn gartrefi i deuluoedd a ymfudodd i Ogledd America i sefydlu bywyd newydd.

Dyma ardal fagodd sawl bardd gwlad, a sawl un arall a enillodd glod a gwobrau mwyaf yr Eisteddfod Genedlaethol. Gwelwch y gofeb gadarn i Feirdd y Mynydd Bach ar grib uwch ben Llyn Eiddwen.

​​​​​