Skip Ribbon Commands
Skip to main content

Rheidol

Mae’r afon yn tarddu ar fynydd Pumlumon, copa uchaf Canolbarth Cymru, a tharddle’r Hafren a Gwy hefyd. O gronfa Nant y Moch mae’n llifo i lawr drwy goedydd derw hynafol i bentref Ponterwyd. Wedyn mae’n ymuno ag afon Mynach cyn disgyn yn ddramatig i ffurfio un o’r rhaeadrau harddaf yng Nghymru ym Mhontarfynach.

Yn croesi afon Mynach (sy’n isafon i afon Rheidol) mae tair pont ar wahân wedi’u codi ar ben ei gilydd rhwng yr 11eg ganrif a’r 19eg. Yn ôl y chwedl, codwyd y bont wreiddiol gan y Diafol ei hun, gan y byddai’n rhy anodd i feidrolion ei hadeiladu. Cytunodd y Gŵr Drwg i adeiladu’r bont yn gyfnewid am enaid y sawl cyntaf i groesi’r bont. Ond cafodd ei dwyllo o’i wobr gan hen wraig gyfrwys a daflodd damaid o fara ar draws y bont. Rhedodd ci’r hen wraig dros y bont ar ei ôl, felly dim ond enaid y ci oedd yn eiddo i’r Diafol.

Erstalwm roedd yr ardal yn rhan o stad Hafod Uchtryd oedd yn eiddo i Thomas Johnes. Mae’r Bont wedi denu ymwelwyr ers canrifoedd, ac yn eu plith yr awdur George Borrow a gofnododd ei ymweliad yn ei lyfr Wild Wales (1854).

Ar ôl hynny mae afon Rheidol yn ymlwybro drwy dirwedd godidog, ymlaen heibio i hen weithfeydd plwm Ystumtuen ac eraill. Fry uwchben, hed y boda a’r barcud, y wennol a’r sigl-i-gwt heb ofal yn y byd.

Os nad oes chwant cerdded arnoch chi, mae trên bach Rheilffordd Cwm Rheidol yn rhedeg teithiau teithiau poblogaidd rhwng Aberystwyth a Phontarfynach. Yn wreiddiol bwriadwyd i’r trên gludo mwynau metel o’r mwyngloddiau prysur sydd, erbyn heddiw’n segur. 

Ger Ponterwyd, mae’r ‘Silver Mountain Experience’, sef mwynglawdd Llywernog gynt, yn dehongli hanes mwyngloddio yn lleol. 

Ar lan llyn ychydig oddi ar yr A44 mae canolfan ymwelwyr coedwig Bwlch Nant yr Arian, dan berchnogaeth a rheolaeth Comisiwn Coedwigaeth Cymru. Mae’r ganolfan wych yma wedi ennill gwobrau ac mae’n cynnwys adeilad ecolegol gyfeillgar a golygfeydd bendigedig. Daw llawer o bobl i Fwlch Nant yr Arian yn benodol i wylio defod ddyddiol bwydo’r barcud, a hynny drwy ffenestri’r Ganolfan Ymwelwyr neu ar lan y llyn. Mae system fideo a chamerâu wedi’u gosod o amgylch y llyn i bobl gael golwg agos ar yr adar. Mae yma nifer o lwybrau cerdded a llwybrau seiclo a beicio mynydd gwych yn cychwyn ac yn gorffen yma hefyd, ac mae cyfleusterau golchi beic ar gael yn y Ganolfan.

Ar lawr y dyffryn, ger canolfan ymwelwyr gorsaf bwer Rheidol mae’r afon yn bwysig fel bridfa eogiaid a brithyllod ac uwchben yr orsaf bŵer mae ‘grisiau pysgod’ 6 metr wedi’u naddu i’r graig i agor mannau epilio newydd i’r pysgod uwchben Rhaeadr Rheidol.

Daw’r afon i ben ei thaith yn harbwr Aberystwyth.