Skip Ribbon Commands
Skip to main content

Teifi

Afon Teifi yw’r afon hwyaf yng Nghymru (75 milltir), er mai ffrwd egwan yw hi yn ei tharddiad yn yn codi o Lyn Teifi yn 'anialwch gwyrdd Cymru' fel yr gelwir uwchdiroedd Mynyddoedd y Cambrian gan rai.

Rhed yr afon yn gyntaf heibio i Abaty Ystrad Fflur ac wedyn drwy bentref Pontrhydfendigaid ac ymlaen drwy un o gyforgorsydd mwyaf Prydain, Cors Caron. 

Dros y 30 milltir nesaf mae afon Teifi’n ymddolennu i’r de-orllewin dros borfeydd bras gan basio trwy drefi a phentrefi Tregaron, Llanddewi Brefi, Llambedr Pont Steffan, Llandysul a  Chenarth, cyn llifo i’r môr yn Aberteifi. 

Mae’r afon yn enwog am ei physgota yn enwedig am ei sewin blasus. Rhwng Cenarth ac Aberteifi mae traddodiad hynafol o bysgota mewn cwrwgl - sef cwch ysgafn syml wedi’i wneud o wiail a chroen anifail. 

Melinau Dyffryn Teifi oedd canolfan diwydiant gwlân Cymru yn y 19eg ganrif a dechrau’r 20fed, yn cynhyrchu gwlanen, brethyn, carthenni, cwiltiau a siolau. Gallwch olrhain hanes yr etifeddiaeth hon yn yr hen felin wlân sydd wedi’i hadfer yn Amgueddfa Wlân Cymru yn Drefach Felindre.

Abaty Ystrad Fflur 

Sefydlwyd Ystrad Fflur ym 1164 fel abaty Sistersaidd mawreddog lle sefydlodd y Mynachod Gwynion fferm ddefaid fawr a threfn allforio gwlân a chig oen Cymreig a sefydlu llwybrau masnachu dros y mynyddoedd. Roedd y mynachod yn feistri hefyd ar farddoniaeth Gymraeg a chofnodi chwedlau a llên gwerin lleol mewn llawysgrifau, gan gynnwys Pedair Cainc y Mabinogi.  Dywedir bod y bardd mawr canoloesol Dafydd ap Gwilym wedi’i gladdu yn Ystrad Fflur.  

Cynhaliodd tywysog Cymru, Llywelyn Fawr, gyngor yno yn y 12fed ganrif a chladdwyd 11 o dywysogion y Deheubarth yno hefyd yn y 12fed ganrif a’r 13eg. 

Yn yr 16eg ganrif, dan Harri’r VIII, gyda diddymiad y mynachlogydd daeth cwymp Ystrad Fflur a’i chyd-abatai mewn rhannau eraill o Gymru. Dros y blynyddoedd, cafodd cerrig o adeiladau godidog yr abaty eu cymryd a’u defnyddio mewn adeiladau eraill, ond erys y porth gorllewinol bwaog o hyd. 

Cors Caron

Yn gorchuddio rhyw 816 erw ac yn dyddio’n ôl ryw 12,000 o flynyddoedd i’r cyfnod rhewlifol diwethaf, mae Cors Caron yn warchodfa natur tir gwlyb cenedlaethol ac yn gynefin i ryw 44 o wahanol grwpiau rhywogaethol, yn cynnwys planhigion tir a dŵr, pysgod, trychfilod, cramenogion, cennau, ffyngau, mamaliaid ac adar.

Mae’r safle’n ymestyn dros 6km ac yn safle pwysig iawn fel magwrfa dyfrgwn a chreaduriaid fel y bwncath, y barcud, yr hebog tramor, y cudyll bach, y gwalch glas a’r boda tinwyn. Dyma gynefin y barcud, aderyn ysglyfaethus a fu mewn perygl o ddiflannu o’r tir, ond sydd bellach yn ffynnu eto yn yr ardal. Mae’r tiroedd gwlyb yn denu adar gwyllt fel y gorhwyaden, y gylfinir, rhegen y dŵr, y gïach, y grugiar goch, corhedydd y coed, a’r troellwr bach neu delor y gwair. Gwelir crec yr eithin yn y mannau sychach ac mae’r tingoch a thelor yr helyg yn nythu yn y prysgwydd helyg.

Aber yr Afon Teifi

Mae Canolfan Natur Cymru, yng nghanol Gwarchodfa Natur Genedlaethol Corsydd Teifi, yn llawn bywyd gwyllt ac yn hawdd ei chyrraedd drwy lwybr amlbwrpas sy’n arwain yno’n uniongyrchol o dref Aberteifi. 

Wrth grwydro cewch ddarganfod pyllau afon, corslwyni, dolydd sych a choetiroedd, a chanolfan ddehongli fodern wych a chaffi’r Tŷ Gwydr lle cynigir gweithgareddau i’r teulu cyfan. Cadwch lygad yn agored am ddyfrgwn, glas y dorlan, aderyn y bwn, y boda tinwyn, y gylfinir, y glöyn brithribin brown, gwas y neidr a’r pry lladd. Gallwch weld adar gaeafu hefyd, adar tir gwlyb, a blodau gwyllt bendigedig yn y gwanwyn a’r haf.

Wyddoch chi?
Bu ffermydd dyffryn Teifi yn gysylltiedig â’r diwydiant llaeth yn Llundain yn y 19eg ganrif gyda nifer o’r Cardis yn sefydldu busension llaeth yn y ddinas.