Skip Ribbon Commands
Skip to main content

Ystwyth

​Mae afon Ystwyth yn tarddu o sawl nant yn uchel ar Elenydd ac mae’n cynnig rhai o’r golygfeydd mwyaf trawiadol ym Mhrydain. Llifa’r afon i gyfeiriad y gorllewin i mewn i harbwr Aberystwyth lle mae’n cwrdd ag afon Rheidol. 

Prin yw poblogaeth dyffryn Ystwyth erbyn heddiw, ond yn y canrifoedd a fu, bu’n ardal lawer mwy poblog a phrysurach, a hynny oherwydd y cyfoeth o fwynau oedd yma. Cloddiwyd am arian, plwm, a sinc yn y dyffryn ers oes y Rhufeiniaid a daeth y gwaith i’w anterth yn y 18fed ganrif.  Mwynglawdd Cwm Ystwyth oedd y mwyaf o sawl mwynglawdd yn yr ardal, ac mae’r adfeilion yno’n dystion tawel i fywyd a gwaith y cannoedd a fu’n gweithio yno erstalwm. 

Mae dyffryn yr afon gyda’r prydferthaf yng Nghymru gyda llethrau coediog serth, sy’n  arbennig o hardd yn yr hydref.  Aiff y ffordd hon dros Elenydd i Raeadr Gwy a chafodd ei disgrifio gan yr AA fel un o’r deg ffordd prydferthaf i’w gyrru yn y byd.

Mae dyffryn Ystwyth yn boblogaidd gan gerddwyr ac mae sawl llwybr wedi’u harwyddo. Mae’r afon yn ffefryn ymysg pysgotwyr brithyllod, sewin ac eogiaid.

Llwybr Ystwyth

Llwybr beicio a cherdded 20 milltir (32.1km) yw Llwybr Ystwyth sy’n cysylltu Tregaron yn nyffryn Teifi uchaf ac Aberystwyth ar yr arfordir. Mae’n dilyn rhan o drac hen reilffordd y Great Western (rheilffordd Manchester & Milford yn wreiddiol) rhwng Aberystwyth a Chaerfyrddin.

Hafod

Mae Stad yr Hafod (Hafod Uchtryd) ryw 12 milltir i mewn o Aberystwyth ac mae’n cael ei chydnabod fel un o’r enghreifftiau gorau yn Ewrop o dirwedd Ddarluniaidd. 

Creadigaeth wych yn y 18fed ganrif oedd hon gan berchennog y stad, Thomas Johnes (1748-1816). Cododd blasty crand newydd yn y llecyn diarffordd yma a threfnu ei diroedd coediog yn y dull tirlunio ‘darluniaidd’. Cyn hir roedd yr Hafod yn enwog am ei harddwch ac yn gyrchfan hanfodol i fonedd yr oes a ddeuai fel twristiaid i Gymru.

Câi ymwelwyr fwynhau golygfeydd ar gyfres o lwybrau cylchol. Mae llawer o’r rhain wedi cael eu hadfer, ond dim ond stablau’r plas sydd i’w gweld erbyn heddiw. Mae Eglwys yr Hafod yn adeilad hardd a thawel ar ymyl y stad. 

Gallwch ddarllen hanes diddorol y stad yn y llyfr Peacocks in Paradise gan Elizabeth Inglis Jones.​

Wyddoch chi?
​Un o lawer o bobl a fu’n ymweld â Thomas Johnes yn yr Hafod oedd y botanegwr o Sweden Carl Linneaus, a oedd yn enwog yn y 18fed ganrif fel sylfaenydd tacsonomeg planhigion modern, a sefydlodd drefn awdurdodol o gofnodi holl blanhigion y byd​