Skip Ribbon Commands
Skip to main content

Afonydd a llynnoedd

Mynyddoedd y Cambria yw cefndeuddwr mawr canolbarth Cymru, tarddiad afonydd enwog – Hafren, Gwy, Teifi a Tywi – ac afonydd byr ond byrlymys fel Einon, Leri, Rheidol ac Ystwyth.

Tarddle Afonydd mawrion

Mae'r afonydd sy'n codi ym Mynyddoedd y Cambria i lifo i'r dwyrain a'r de yn dilyn llwybr hamddenol i'r mor. Rhain yw wy afon hiraf Prydain - Yr Hafren a’r Gwy - sy'n codi o fewn milltir o'i gilydd ar lethrau Pumlumon. 

Ychydig filltiroedd o’i gilydd ym mhyllau mawndir Elenydd mae tarddle afonydd hiraf Cymru hefyd – Y Tywi, a’r Teifi, sydd i’w gweld yn gilgant glir ar unrhyw fap o Gymru, yn diffinio ffin naturiol Ceredigion â Sir Gâr a Phenfro.

Afonydd a rhaeadrau

Yn hytrach na dolennu’n hamddenol i’r môr fel yr Hafren a’r Gwy, rhuthra afonydd Rheidol ac Ystwyth dros 500 medr ar eu taith 30 milltir am y môr yn Aberystwyth gan greu ceunentydd a rhaeadrau ar y ffordd.

Llynoedd a Chronfeydd Mynyddoedd y Cambria

Nodweddir ucheldir Mynyddoedd Cambria gan gyfres o lynnoedd bychain - olion oes yr ia. Mae Llyn Llygad Rheidol ar lechwedd gogleddol Pumlumon yn llyn gyda argae naturiol marian rhewlifol. Ar gyrion Cors Caron ar dir fferm Maesllyn mae llyn arall o oes y rhew - lle toddodd talpyn enfawr o rew.

Mae Llyn Eiddwen, ar lethrau’r Mynydd Bach, yn nodweddiadol o lynoedd ucheldir Ceredigion gyda grug a gwellt y bwla ar eu glannau. Oherwydd eu dyfroedd tywyll dwfn, mae rhai’n credo bod rhai o Lynnoedd Teifi ger Pontrhydfendigaid yn byllau diwaelod.

 

Mae meini crwydr, wedi eu gadael ar draws yr ardal, yn dyst i’r rhewlifoedd mawr greodd Llyn Teifi, Llyn Hir, Llyn Gorlan, and Llyn Egnant - Llynnoedd Teifi, sy’n sefyll tua 1500 troedfedd (455medr) uwchben pentref Pontrhydfendigaid. Dyma’r llynnoedd a bysgotwyd am frithyll a yslywenod gan fynachod canoloesol Ystrad Fflur, yn ogystal a physgotwr enwocaf Cymru, Moc Morgan – chwiliwch am y gofeb iddo ger llyn Egnant.

 

Nodwedd anocheladwy arall o fynyddoedd y Cambria yw’r cronfeydd dŵr – llynoedd dyffrynnoedd Claerwen, Elan a Chlywedog yn y dwyrain, a Nant y Moch a dyffryn Rheidol yn y gorllewin.

Mae rhaglen o deithiau tywys o gronfeydd a llynoedd Mynydoedd y Cambria, a digwyddiadau amrywiol o ganolfan ymwelwyr Cwm Elan. Mae canolfan ddehongli yng Nghwm Rheidol sy’n esbonio y rhwydwaith gymleth sy’n cysylltu cronfeydd Rheidol, Nant y Moch a Dinas i fwydo’r tyrbiniau yn y pwerdy.

Cyforgors a rhos

Llenwir rhan uchaf dyffryn yr afon Teifi rhwng Tregaron a Phontrydfendigad gan dair cors sy’n ymestyn dros 2,000 o erwau, ac a’i handweinir fel Cors Caron. Dyma engrheifft o gyforgors fawn heb ei hail ym Mrhydain. Datblygodd y mawndir dros 12,000 mlynedd, ac fe’i cydnabyddir yn rhyngwladol fel gwarchodfa gwlyptir arwyddocaol.

 

Fe adweinir y mawndir fel Cors Goch Glanteifi hefyd – adlewyrchiad o’r wawr goch nodweddiadol o lystrfiant y gwlyptir – hesg, migwyn, blodau meindlws llafn y bladur, a chwys yr haul – y planhigyn rhyfedol sy’n cael maeth drwy ddal pryfed. Ynghyd a phlanhigion eraill, dyma sail y gronfa ddofn o fawn sydd wedi datblygu dros y canrifoedd i ffurfio cromenni bas sydd dal i dyfu tu cefn i farian rhewlifol mae’r afon Teifi wedi rhwygo llwybr trwyddi.

Ar gyrion Cors Caron, ar dir fferm Maesllyn mae llyn sy’n deillio o oes y rhew, pan doddodd talpyn enfawr o rew, unwaith roedd y prif rewlif wedi cilio. Gellir ei weld yn hawdd o lwybr Ystwyth, sy’n dilyn trywydd yr hen reilffordd.

 

Gallwch weld pob math o blanhigion diddorol – tegeiriannau, talfedel neu lysiau’r angel, llugaeron, yn ogystal a phlanhigion sy’n arnofio ar y dŵr fel crafanc y fran, bidoglys y dŵr a llyriad y dŵr. Dyma gynefin ardderchog i weld gloynod, gwas y neidr a mursenod. Byddwch yn barod i weld anifeiliad swil y gors, fel dyfrgwn, ffwlbartiaid a llygod y dŵr, a gwrandewch am gri’r ehedydd a phibydd y waun. Yn y gaeaf daw elyrch y gogledd i orffwys yma, ac fe welwyd eryr euraid ifanc yn yr ardal yn ddiweddar hefyd.

Gwelir olion dyn ar y gors hefyd – o byllau lle torrwyd mawn tan ganol yr 20fed ganrif, i drac rheilffordd cwmni Manchester- Milford, a osodwyd ar sail o fyrnau gwlan, ac sydd bellach yn lwybr beicio Ystwyth.

Yn achlysurol mae Cors Caron yn rhannu ambell gyfrinach ryfeddol, fel y corff cynhanesyddol a ddarganfuwyd gan dorrwr mawn yn y 19eg ganrif.

Dathlwch Ddiwrnod Rhygwladol y Gors yng Ngheredigion

Beth am ddod a’ch welingtyns a dathlu diwrnod rhyngwladol y gors yng Ngheredigion! Ond 'does dim rhaid gwlychu’ch traed – mae llwybrau pren yn eich arwain i ganol Cors Caron lle gallwch fwynhau awyrgylch unigryw’r tirwedd. Mae llwybrau pren ar draws Cors Fochno ar lawr gwlad yr arfordir ger Y Borth. Holwch am deithiau tywys wardeniaid Gwarchodfa Dyfi Ynyslas, neu warchodfa adar Ynyshir.

Mae Cors Fochno a Cors Caron yn engrheifftiau o gyforgors fawn heb eu hail ym Mrhydain. Mae'r tair ardal o gyforgors yn ymestyn bron i 2,000 cyfer ar draws rhan uchaf dyffryn y Teifi rhwng Tregaron a Phontrhydfendigaid. Maent wedi datblygu dros 12000 mlynedd, ac yn dal i dyfu.

​​​​​​​​