Skip Ribbon Commands
Skip to main content

Afonydd a llynnoedd

Mynyddoedd y Cambria yw cefndeuddwr mawr canolbarth Cymru, tarddiad afonydd enwog – Hafren, Gwy, Teifi a Tywi – ac afonydd byr ond byrlymys fel Einon, Leri, Rheidol ac Ystwyth.

Tarddle Afonydd mawrion

Mae'r afonydd sy'n codi ym Mynyddoedd y Cambria i lifo i'r dwyrain a'r de yn dilyn llwybr hamddenol i'r mor. Rhain yw wy afon hiraf Prydain - Yr Hafren a’r Gwy - sy'n codi o fewn milltir o'i gilydd ar lethrau Pumlumon. 

Ychydig filltiroedd o’i gilydd ym mhyllau mawndir Elenydd mae tarddle afonydd hiraf Cymru hefyd – Y Tywi, a’r Teifi, sydd i’w gweld yn gilgant glir ar unrhyw fap o Gymru, yn diffinio ffin naturiol Ceredigion â Sir Gâr a Phenfro.

Afonydd a rhaeadrau

Yn hytrach na dolennu’n hamddenol i’r môr fel yr Hafren a’r Gwy, rhuthra afonydd Rheidol ac Ystwyth dros 500 medr ar eu taith 30 milltir am y môr yn Aberystwyth gan greu ceunentydd a rhaeadrau ar y ffordd.

Llynoedd a Chronfeydd Mynyddoedd y Cambria

Nodweddir ucheldir Mynyddoedd Cambria gan gyfres o lynnoedd bychain - olion oes yr ia. Mae Llyn Llygad Rheidol ar lechwedd gogleddol Pumlumon yn llyn gyda argae naturiol marian rhewlifol. Ar gyrion Cors Caron ar dir fferm Maesllyn mae llyn arall o oes y rhew - lle toddodd talpyn enfawr o rew.

Mae Llyn Eiddwen, ar lethrau’r Mynydd Bach, yn nodweddiadol o lynoedd ucheldir Ceredigion gyda grug a gwellt y bwla ar eu glannau. Oherwydd eu dyfroedd tywyll dwfn, mae rhai’n credo bod rhai o Lynnoedd Teifi ger Pontrhydfendigaid yn byllau diwaelod.

Mae meini crwydr, wedi eu gadael ar draws yr ardal, yn dyst i’r rhewlifoedd mawr greodd Llyn Teifi, Llyn Hir, Llyn Gorlan, and Llyn Egnant - Llynnoedd Teifi, sy’n sefyll tua 1500 troedfedd (455medr) uwchben pentref Pontrhydfendigaid. Dyma’r llynnoedd a bysgotwyd am frithyll a yslywenod gan fynachod canoloesol Ystrad Fflur, yn ogystal a physgotwr enwocaf Cymru, Moc Morgan – chwiliwch am y gofeb iddo ger llyn Egnant.

 

Nodwedd anocheladwy arall o fynyddoedd y Cambria yw’r cronfeydd dŵr – llynoedd dyffrynnoedd Claerwen, Elan a Chlywedog yn y dwyrain, a Nant y Moch a dyffryn Rheidol yn y gorllewin.

Mae rhaglen o deithiau tywys o gronfeydd a llynoedd Mynydoedd y Cambria, a digwyddiadau amrywiol o ganolfan ymwelwyr Cwm Elan. Mae canolfan ddehongli yng Nghwm Rheidol sy’n esbonio y rhwydwaith gymleth sy’n cysylltu cronfeydd Rheidol, Nant y Moch a Dinas i fwydo’r tyrbiniau yn y pwerdy.

​​​