Skip Ribbon Commands
Skip to main content

Mynyddoedd y Cambria

Disgrifwyd yr ardal hon yn berffaith gan George Borrow, y teithiwr a’r awdur o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Pe byddai’n dod yn ôl heddiw ni fyddai’n gweld llawer o wahaniaeth ym Mynyddoedd y Cambria. Maent yr un mor hardd yng nghanol y gaeaf gyda choch ac aur y gweundir rhwng clogwyn ac eira, neu yn yr haf dan glogyn o redyn a grug.

Pumlumon ac Elenydd

Pumlumon Fawr, yn 752m (2,468 feet) yw’r man uchaf ym mynyddoedd y Cambria, a’i enw’n crybwyll bod pum copa iddo, sef Arwystli, Pumlumon Llygad-bychan, Pumlumon Cwmbiga a Phumlumon Fach. I’r de o Bumlumon mae Elenydd, gyda gweundiroedd agored a cheunentydd serth. Yma mae bwlch Abergwesyn, un o’r ffyrdd mynydd harddaf yng Nghymru.

Bu cloddio am fwynau yn rhan bwysig o economi’r ardal ers 4,000 o flynyddoedd. Gellir gweld pa mor fawr oedd y gweithfeydd yn ôl maint a nifer yr adeiladau a godwyd yn oes Victoria, pan oedd y diwydiant ar ei anterth, ond sydd bellach yn adfeilion llawn rhyfeddod. mae'r diwydianat dwr wedi gwneud ei farc ar y mynyddoedd hefyd - mwynhewch fywyd gwyllt yr ucheldir a rhefeddwch ar grefft dyn yng Nghwm Rheidol a cronfeydd Dyffryn Elan.

Mynyddoedd y Cambria yw prif gefndeuddwr Cymru, ac yma y tardd yr Hafren, Gwy a Rheidol.

Roedd mynachod Ystrad Fflur yn berchnogion tiroedd ym Mynyddoedd y Cambria, ac yn ddiweddarach datblygwyd eu llwybrau ar draws y mynyddoedd gan y porthmyn i fynd â defaid, gwartheg a gwyddau i farchnadoedd Lloegr. Erbyn diwedd y ddeunawfed ganrif amcangyfrifir bod tua deg mil ar hugain o wartheg y flwyddyn wedi dilyn y llwybrau hyn drwy fynyddoedd y Cambria. Dewiswyd y llwybrau yma gan mai dyma’r ffordd gyflymaf dros y mynydd o’r mannau casglu megis Ponterwyd, Pontarfynach, Tregaron, a Llanddewi Brefi.

Disgrifir capel Soar y Mynydd fel y capel mwyaf anghysbell yng Nghymru. Codwyd y capel Calfinaidd ym 1822 i wasanaethu ffermydd y mynydd-dir, ac fe’i hanfarwolwyd gan yr artist Ogwyn Davies yn ei ddarlun eiconig. Cynhelir gwasanaethau yma hyd heddiw a daw ymwelwyr o bedwar ban y byd ar bererindod i’r fangre dawel yng nghesail y mynydd.

Mae Menter Mynyddoedd y Cambria, a ysbrydolwyd gan Ei Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru, yn amcanu i gynnal ffermydd traddodiadol a chymunedau'r ucheldiroedd trwy hybu cynnyrch a chrefftau'r ardal, a thrwy warchod yr amgylchedd lle'u cynhyrchir. Sefydlodd y Tywysog ei gartref Cymreig yn Llwynywermod ym Mynyddoedd y Cambria yn 2008, a thra ar ymweliad a'r ardal, gwnaeth ddyfrliw o Gwm Berwyn, ger Tregaron. Mae'r llun yn cael ei ddefnyddio nawr fel rhan o frand Menter Mynyddoedd y Cambria. ​​​​​