Skip Ribbon Commands
Skip to main content

Beirdd y Mynydd a'r Arfordir

Fry ar gopa Mynydd Bach, lle cewch olygfeydd godidog o Fae Ceredigion a Mynyddoedd Cambria, saif cofeb i griw o feirdd ac awduron, pob un ohonynt wedi ennill mewn eisteddfodau gan gynnwys yr Eisteddfod Genedlaethol. I lawr yn ardal Llangrannog roedd criw arall o feirdd - Bois y Cilie - a chanddynt hwythau berthynas gref gyda'r tir a'r môr, wedi eu hysbrydoli gan eu hamgylchedd a'u cymdeithas.

Beirdd y Môr a'r Mynydd

Yn Llanfihangel Genau’r Glyn (Llandre) gallwch gerdded drwy’r coed ar hyd Llwybr Llên sy’n mynd â chi heibio gwaith 16 o feirdd lleol yn Gymraeg a Saesneg, ac mae hanes rhyfeddol i'w ddarganfod ym mynwent unigryw Eglwys Sant Mihangel ymysg beddi’r hen forwyr.

Enillodd sawl aelod o Fois y Cilie yn yr Eisteddfod Genedlaethol, gan gynnwys Dic Jones. Dan ei enw barddol, 'Dic yr Hendre', enillodd ei gadair gyntaf ym 1966 gyda'i awdl 'Y Cynhaeaf'.  Bu’n Archdderwydd o 2007 hyd nes y bu farw yn 2009. Dywedai mai ffermio oedd ei fara menyn, a’r jam arno oedd barddoni.

Yn yr Hendre, fferm y teulu ym Mlaenannerch ger Aberteifi, gallwch gamu oddi ar Lwybr Arfordir Ceredigion i grwydro ar y tir ac olrhain hanes y bardd a’i grefft â geiriau a hiwmor.

Fry ar gopa Mynydd Bach, lle gewch chi olygfeydd godidog o Fae Ceredigion a Mynyddoedd Cambria, saif cofeb i garfan arall o feirdd ac awduron, pob un ohonynt wedi ennill mewn eisteddfodau gan gynnwys yr Eisteddfod Genedlaethol.

Mae sawl bardd o Geredigion wedi ennill y goron a'r gadair mewn eisteddfodau dros y blynyddoedd, ac maent ar flaen y gad yn y gamp brin iawn o ennill 'y dwbl' - y gadair a’r goron. Yn eu plith y mae Donald Evans o Dalgarreg, a hynny ar ddau wahanol achlysur.