Skip Ribbon Commands
Skip to main content

Yr Eisteddfod Gyntaf

Yr Arglwydd Rhys a gynhaliodd yr Eisteddfod gyntaf – cynulliad o feirdd a cherddorion yn cystadlu er clod a bri eu cymheiriaid – yn ei gastell yn Aberteifi ym 1176. Ar ol cyfnod o ddadfeilio mae'r castell Aberteifi wedi cael ei achub a'i adfer i fod yn lle teilwng o'i hanes, gydag arddangosfa barhaol am yr Eisteddfod, gerddi, ty bwyta a llety yn ogystal â digwyddiadau lu.

Eisteddfodfodau bach a mawr

Mae'r traddodiad eisteddfodol wedi parhau yn Aberteifi a thrwy Geredigion.Gellir mwynhau cystadlaethau llenyddol a cherddorol yng Ngŵyl Fawr Aberteifi, neu unrhyw rai o eisteddfodau mawrion eraill Ceredigion megis Eisteddfodau’r Teulu James Pantyfedwen yn Llanbedr Pont Steffan a Phontrhydfendigaid. 

Mae'r traddodiad yn fyw yn ysgolion a phentrefi ar hyd a lled Ceredigion, gan gynnwys Penrhyncoch, Rhydlewis a Thalgarreg. Gwelwch Gymdeithas Eisteddfodau Cymru am restr gynhwysfawr, neu ewch i restr digwyddiadau Ceredigion.

Mae Eisteddfod Genedlaethol Cymru wedi ymweld a Cheredigion ar sawl achlysur. Cynhaliwyd Eisteddfodau 1865, 1916, 1852 a 1992 yn Aberystwyth, 1942 a 1976 yn Aberteifi a 1984 yn Llambed.

Mae beirdd Ceredigion ymysg enwogion yr eisteddfod, gyda Donald Evans o Dalgarreg yn nodedig am ennill 'y dwbwl', a hynny ddwy waith!

Erbyn heddiw fe gynhelir eisteddfodau ymhob cwr o’r byd, o Awstralia i Batagonia, ac mae llawer o enillwyr mewn eisteddfodau lleol wedi tyfu’n sêr cenedlaethol a rhyngwladol. Ceir cystadlu brwd hefyd yn Eisteddfod y Ffermwyr Ifainc a gynhelir bob blwyddyn gyda’r arlwy’n amrywio o lenyddiaeth i gerddoriaeth a chomedi.