Skip Ribbon Commands
Skip to main content

Llenorion Bohemaidd Ceredigion

Eluned Phillips o Genarth oedd y fenyw gyntaf i ennill Coron yr Eisteddfod Genedlaethol - ddwywaith. Roedd hi’n dipyn o gymeriad. Wedi’i geni ar yr un diwrnod â Dylan Thomas ym 1914, bu Eluned yn mwynhau bywyd bohemaidd yn Llundain a Pharis gan ddod i adnabod llawer o arlunwyr a cherddorion megis Picasso, Augustus John, Jean Cocteau, Maurice Chevalier ac Edith Piaf. Rhoddodd rai o’i phrofiadau ar gof a chadw yn ei chyfrol ‘The Reluctant Redhead’ a gyhoeddwyd pan oedd hi’n 92 mlwydd oed.

Y Gorwel

Adar brith llenyddiaeth Ceredigion

Ysgrifennodd hefyd am un o’i chyfoedion Cymreig yn Llundain a Cheredigion - David Emrys James (Dewi Emrys), y newyddiadurwr, golygydd, bardd a gweinidog yr efengyl. Erys englyn Dewi Emrys, Y Gorwel, yn un o’n hoff ddarnau o farddoniaeth. Cyfieithwyd yr englyn hwn i’r Saesneg gan D.Ll.W, aelod o Gymdeithas Cymry Vancouver, Canada, a rhodd gan y gymdeithas honno oedd y Gadair a enillodd Dewi Emrys yn Eisteddfod Genedlaethol 1948.

Wele rith fel ymyl rhod - o'n cwmpas
Campwaith dewin hynod
Hen linell bell nad yw'n bod
Hen derfyn nad yw'n darfod.

Awdur dadleuol arall oedd Caradoc Evans, yn wreiddiol o Rydlewis, a oedd yn ysgrifennu straeon byrion, nofelau a dramâu. Daeth Dylan Thomas i ymweld ag ef yn Aberystwyth ym 1934. Bu och a gwae pan gyhoeddwyd 'My People' (1915), casgliad enwog o straeon cignoeth Caradoc am fywyd gwerinol yng ngorllewin Cymru, ond gyda threigl amser daeth pobl i gymharu’r gyfrol hon â ‘Dubliners’ James Joyce.

Gŵr gwahanol iawn oedd RS Thomas, er ei fod yntau'n mentro i ddyfroedd dyfnion ar brydiau wrth fynegi safbwyntiau cenedlaetholgar tanbaid mewn llawer o’i gerddi. Ef oedd Ficer Eglwys Sant Mihangel yn Eglwys-fach rhwng 1954 a 1967.