Skip Ribbon Commands
Skip to main content

Celf Ceredigion

​Ysbrydolwyd sawl artist, ffotograffydd a cherddor gan dirwedd, arfordir, bywyd gwyllt a chymeriadau Ceredigion, ac mae sawl un o ffotograffwyr mwyaf nodedig Cymru yn byw a gweithio yn yr ardal. Dewch i dynnu eich lluniau eich hunain, dilynwch gwrs celf, ymwelwch a'r artistiaid yn eu stiwdios, chwiliwch am gyngherddau neu ymarferion corau - mae digon o ddewis ac awyrgylch greadigol i'w mwynhau.

Celf Celf Ceredigion

Ymwelodd yr artist enwog JMW Turner â Cheredigion ar ei deithiau drwy Gymru i baentio rhai o’i luniau enwocaf yng Nghilgerran, a sgetsys o raeadrau ystad Yr Hafod ger Pontarfynach ym Mynyddoedd y Cambria. Un o luniau mwyaf eiconic Cymru heddiw yw darlun Ogwyn Davies o gapel Soar y Mynydd, ynghyd â lluniau Aneurin Jones o’r Cob Cymreig a ffermwyr yn sgwrsio yn y mart.

Heddiw mae Ceredigion yn gartref i artistiad cyfoes sy’n gweithio mewn sawl cyfrwng. Gallwch ymweld â llawer yn eu gweithdai neu mewn arddangosfeydd arbennig yn ystod Taith Gelf Ceredigion bob mis Awst.

Mae arddangosfeydd i’w gweld yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth, Y Llyfrgell Genedlaethol a nifer cynyddol o galerïau ar draws y sir.

Dethlir ffotograffiaeth yng ngwyl a href="http://ffotoaber.com/cy/">Ffotoaber, gyda'r ffotomarathon yn un o'r cystadlethau mwyaf poblogaidd o'i math- y sialens yw tynnu chw llun ar chwe thema mewn chwe awr!

Mae casgliadau gwych o luniau hen a newydd - nid yn unig o Geredigion, ond Cymru ben baladr yn y Llyfrgell Genedlaethol ac archif y Comisiwm Brenhinol gerllaw.

Cerddoriaeth

Mae cerddorion adnabyddus wedi eu magu neu wedi ymgartrefu yng Ngheredigion ac mae cerddoriaeth yn rhan bwysig o fywyd pob tref a phentref - mae dwsin o gorau yn nhref Aberystwyth yn unig!

Ym myd pop Cymru, dyma ardal Tecwyn Ifan, Brychan Llyr a Ryland Teifi, cartref Dewi Pws a Linda Griffiths a datblygodd sawl band pop ym Mhrifysgol Aberystwyth, gan gynnwys Mynediad Am Ddim a'r Trwynau Coch.

Adeg y Nadolig a'r flwyddyn newydd cewch gyfel hefyd i gael cip ar hen draddodiadau y Plygain a'r Fari Lwyd sydd bellach yn adennill eu plwyf unwaith eto yn y sir.

Chwiliwch am gyngerdd, eisteddfod, gig neu ddigwyddiad cerddorol ar ein tudalen digwyddiadau.

Pensaerniaeth

Daw cymeriad adeiladau traddodiadol Ceredigion o'r deunyddiau a ddefnyddiwyd i'w hadeiladau - eu muriau clai clom, y toi gwellt, a'r simneuau o wial. Mae llawr yn cael eu hadnewyddu, rhai fel llefydd i aros, a gellir adnabod eraill a'u to gwellt heb ei gyffwrdd ers cenhedlaeth o dan orchuddo sinc.

Aberystwyth yw'r dref i'w darganfod am bensaerniaeth Fictorianaidd - o westai a thai'r Promenad, 'Hen Goleg' Prifysgol Aberystwyth, a chapeli hyfryd y gwahanol enwadau. Ewch i Tremain ger Aberteifi i ddarganfod gwiath Talhaiarn, bardd a phensaer i Joseph Paxton, a gododd y Palas Grisial yn Lludain.

Neuadd y Dref yn Aberteifi sy'n un o'r adeiladau cyhoeddus cyntaf i'w codi ar gynllun yn dilyn egwyddorion Ruskin. Dywedir bod rhan o adeilad 'Yr Hen Goleg' yn Aberystwyth yn dyddio'n ol gyfnod John Nash. Ef gynlluniodd adeilad hyfryd Plas Llanerchaeron, nepell o harbwr lliwgar Aberaeron a gynlluniwyd gan Alban Gwynne.

Yn Aberteifi fe welwch adeiladau praff y warws ar lan yr afon ac yn y Cei Newydd mae adeiladau tal lle cynhyrchwyd hwyliau gynt. mae adeiladwaith fodern ddiddorol i'w gweld yn Nheredigion hefyd -codwyd adeilad Theatr Byd Bychan yn Aberteifi gan ddilyn egwyddorion adeiladwiath gynaliadwy. Ewch am dro o gwmpas campws Prifysgol Aberystwyth am flas o adeiladwaith fodern o'r 60au ymlaen.

Cynhelir Gwyl Bensaerniaeth Cymru yn Aberystwyth ym mis Mai, bob yn ail flwyddyn(nesaf yn 2016).

Fel rhan o wyl Drysau Agored mae adeiladau o ddiddordeb hanesyddol a phensaernïol ar agor ar draws Ceredigion a Chymru yn ystod mis Medi ar gyfer teithiau tywys a digwyddiadau arbennig. I ddarganfod mwy am yr wyl ewch i wefan Cadw. Mae sawl un yn agos i’w gilydd, felly beth am wneud diwrnod neu benwythnos ohoni?