Skip Ribbon Commands
Skip to main content

Marchogion y Brenin Arthur

Cysylltir y Brenin Arthur a’i farchogion â nifer o lefydd ar hyd a lled Ceredigion o gastell Aberteifi a’r arfordir i ucheldiroedd Mynyddoedd y Cambria, megis Maenarthur ger Pontrhydygroes.

Marchogion y Brenin Arthur

Ceir hanes am Arthur yn ceisio dwyn clogyn Padarn Sant. O ganlyniad, fe’i llyncwyd gan y tir ac yno y bu’n gaeth hyd nes iddo ymddiheuro am ei weithred.

Lladdodd Gwalchmai, nai y Brenin Arthur, dri o gewri mileinig Ceredigion. Cafodd Maelor Gawr ei gipio gan Gwalchmai ond rhoddwyd hawl i Maelor seinio’i gorn dair gwaith cyn marw. Clywodd Cornippyn, mab Maelor, sŵn corn ei dad a rhuthrodd ar draws afon Ystwyth i’w achub ond fe’i lladdwyd yn y frwydr. Y noson honno lladdwyd ei ddau fab arall hefyd, Crugyn a Bwba. Edrychwch am gartrefi honedig y cewri: Dinas Maelor yw hen enw caer Oes Haearn Pendinas ar gyrion Aberystwyth ac mae caerau llai Cefn Crugyn a Castell Bwba ger Llanilar a Llanbadarn Fawr yng nghyffiniau Aberystwyth.

Mae chwedl Culhwch ac Olwen yn adrodd hanes y marchogion Cai a Bedwyr yn eistedd ar gopa Pumlumon. Sonir hefyd amdanynt yn cloddio twll mawr rhwng ceunant afon Rheidol a chrib Erw Barfau gyda’r nod o gipio’r cawr Dulas.

Yn ôl pob sôn, mae Geraint, un arall o farchogion Arthur, wedi ei gladdu ym Mhenbryn yn dilyn brwydr Llongborth ar safle gerllaw. Roedd gan Geraint gaer ar y safle lle saif castell Cilgerran yn awr.

Mae Llyfr Taliesin, yn cyfeirio at Cunedda a Dylan Eil Don ynghyd â hanesion am y bardd yn teithio i Annwfn gyda’r Brenin Arthur. Mae’r llawysgrif hwn yn un o drysorau Llyfrgell Genedlaethol Cymru​. ​