Skip Ribbon Commands
Skip to main content

Bro'r Cewri

I’r rheiny ohonoch sy’n gyfarwydd â phentref Llangrannog, mae’n siwr eich bod wedi dod ar draws Carreg Bica ar y traeth. Yn ôl y chwedl, roedd y cawr Bica yn dioddef o’r ddannodd a rhwygodd y dant drwg allan. Dyma, yn ôl y chwedl, yw Carreg Bica. Yn Nhroed y Rhiw gerllaw mae carreg y dywedir iddi gael ei thynnu allan o glocsen cawr. Ar lan afon Claerddu ger Pyllau Teifi, uwch Pontrhydfendigaid, mae ffermdy o’r un enw. I fyny’r afon o’r fan hon mae rhaeadr a phwll dwfn lle, yn ôl pob sôn, arferai cawr arall olchi ei ddwylo.

Bro’r Cewri

Culhwch ac Olwen a'r Twrch Trwyth

Ysbaddaden Bencawr oedd brenin y cewri, a’i ferch Olwen oedd y ferch brydferthaf yn y byd, a'i henw'n deillio o'r blodau gwynion a dyfai yn ôl ei thraed. Yn ôl un o'r chwedlau hynaf am y Brenin Arthur a'i farchogion a gofnodir yn Llyfr Coch Hergest, roedd llysfam Culhwch wedi tyngu na fyddai Culhwch yn priodi neb ond Olwen. Ond cyn y gallasai Culhwch briodi Olwen, byddai’n rhaid iddo gyflawni tasgau a osodwyd gan Ysbyddaden Bencawr, tad Olwen. Ger Llanbedr Pont Steffan mae bryngaer arall a adwaenir fel Castell Olwen.​

Un o'r tasgau a osodwyd gan Ysbaddaden oedd hela’r cawr, Y Twrch Trwyth, a'i foch bach er mwyn dwyn y grib, y siswrn a’r rasel o’i ben.  Galwodd Culwch ar ei berthynas, y Brenin Arthur i'w gynorthwyo. Roedd angen tynnu blew o farf y cawr Dillus i wneud rhaff i ddal y moch bach, a gwaethpwyd hynny gan Cai a Bedwyr yn Erw Barfau, llecyn nepell o Bontarfynach a llethrau Pumlumon. Gyda chymorth marchogion Arthur, llwyddodd Culhwch gipio’r Twrch Trwyth ar fryngaer Garth Gugrun ger Llanilar yng nghwm Ystwyth. 

Cysylltir Caer Grugun gyda'r cawr o'r un enw. Roedd ef a'i frodyr, Cornippyn a Bwba yn feibion i Maelor Gawr a drigai yng Nghaer Maelor ger afon Ystwyth. Hen enw ar fryngaer Pendinas ger Aberystwyth yw Caer Maelor.