Skip Ribbon Commands
Skip to main content

Cantre’r Gwaelod

Mae hanes Cantre’r Gwaelod yn un o chwedlau mwyaf adnabyddus Cymru ac un sy’n cael ei hadrodd dro ar ôl tro. Ydy’r olion ar hyd arfordir Bae Ceredigion yn awgrymu bod gwir tu ôl i’r chwedl?

Cantre’r Gwaelod

Clychau Cantre'r Gwaelod

Dilynwch Lwybr Arfordir Cymru ar hyd Bae Ceredigion a chustfeiniwch am glychau Cantre’r Gwaelod ‘o'r golwg dan y dŵr’ rhwng Ynyslas ac Aberdyfi. Mae artistiaid wedi dehongli'r hanes drwy osod cloch o dan y lanfa yn Aberdyfi sy'n cael ei chanu gan y llanw, ac ym mhentref glan môr y Borth mae cloch wedi ei chynnwys mewn cerflun llechen yn nodi cysylltiad yr ardal â'r chwedl.

Yn ôl yr hanes, Cantre’r Gwaelod oedd y tiroedd a reolwyd gan Gwyddno Garanhir o’i blas Caer Garanhir ger Aberystwyth. Diogelwyd y tir rhag y môr gan forglawdd o dan ofal Seithennyn, a’i gyfrifoldeb ef oedd cau’r llifddorau bob nos i ddiogelu’r tir rhag y llanw. Ond ar ôl noson hir o ddiota, syrthiodd Seithennyn i gysgu gan anghofio am y llifddorau. Rhuthrodd y dŵr i mewn gan foddi tiroedd Cantre’r Gwaelod a 16 o bentrefi, ond llwyddodd Seithennyn, y Brenin a’i lys ddianc i’r mynyddoedd.

Adroddir yr hanes, ynghyd â hanesion am y Brenin Arthur a'r dewin Myrddin, yn Llawysgrif Llyfr Du Caerfyrddin a gedwir yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth.

Ewch draw i Ynyslas ar lanw isel i weld olion y goedwig hynafol ar y traeth. Yr amser gorau o'r flwyddyn yw'r gaeaf, pan mae'r cerrynt cryfion a'r gwynt yn sgwrio'r tywod bant - neu i wrando'n astud i glywed sŵ​n clychau o dan y tonnau rhwng Ynyslas ac Aberdyfi, ar draws aber yr afon Dyfi, yn union fel y sonir amdanynt yng nghân enwog 'Clychau Aberdyfi'.

Neu cerddwch ran o lwybr Arfordir Ceredigion rhwng Clarach a'r Borth, i Wallog, lle gwelwch Sarn Cynfelyn yn ymestyn allan i'r môr.

Yn Y Borth mae'r cerflunydd Ben Dearnley, sy'n byw yng Ngheredigion, wedi cerfio geiriau o'r gân a golygfeydd o'r hanes ar lechen fawr drawiadol. Darllenwch yma ei hanes yn creu'r gwaith, beth a'i ysbrydolodd a beth sy'n digwydd ar hirddydd haf.

Ewch i ymweld ag Amgueddfa Gorsaf Reilffordd y Borth i weld canfyddiadau rhyfeddol archeolegwyr sydd wedi bod yn gweithio ar y traeth a'r gors, lle daethpwyd o hyd  i'r cyrn 3,000 mlwydd oed.  Mae'r arddangosfa, sy'n  rhad ac am ddim, ar agor 11 - 4 ar ddydd Sadwrn, Mawrth a Iau, a 12 - 4 ar y Sul a Gwyl y Banc.