Skip Ribbon Commands
Skip to main content

Hud y Celtiaid

Mae gan rhai o chwedlau’r Mabinogi wreiddiau dwfn yng Ngheredigion - chwedlau am ddewrder, gweithredoedd hudolus a merched glandeg. Cyfeirir at leoliadau yng Ngheredigion ym Mabinogi Pwyll er enghraifft.

Hud y Celtiaid

Hud y Celtiaid

Tra’n hela yng Nglyn Cych yn nyffryn Teifi, lladdodd Pwyll garw roedd Arawn yn ei hela, ac i dalu iawn am hyn gorfodwyd Pwyll i newid lle ag Arawn yn Annwfn am flwyddyn. Mae dywediad yng Ngheredigion ‘hir yw’r dydd a hir yw’r nos, a hir yw aros Arawn’.

Ganwyd Pryderi yn fab i Pwyll. Yn chwedl Math fab Mathonwy, cyfeirir at lys Pryderi yn Rhuddlan Teifi yn Nyffryn Teifi, rhwng Llanbedr Pont Steffan a Llandysul. Derbyniodd Pryderi dor o foch hud gan Arawn. Teithiodd y dewin Gwydion i Ruddlan Teifi gan dwyllo Pryderi i roi’r moch iddo yn gyfnewid am feirch a chŵn hela. Lladdwyd Pryderi mewn brwydr i geisio cipio’r moch yn ôl. Tybir bod yr elfen ‘moch’ mewn enwau llefydd fel Nant y Moch ym mynyddoedd y Cambria, yn cyfeirio at lefydd lle byddai moch yn cael eu gorffwys ar y daith i’r gogledd.