Skip Ribbon Commands
Skip to main content

Morforynion a Llongddrylliadau

Mae llawer o storïau am forforynion yn gysylltiedig ag arfordir Ceredigion, fel hanes traeth Tresaith. Yn ôl y chwedl roedd gan frenin Iwerddon saith merch drafferthus a checrus, a phenderfynod eu hanfon bant ar y môr mewn cwch heb hwyliau. Cludodd y cyrraint hwy tua'r dwyrian a daethant i'r lan ar draethell dawel. Cawsant eu hachub gan saith ffermwr lleol, a chwympodd y saith merch mewn cariad â'r saith ffermwr, a'u priodi. Galwyd y llecyn hyfryd hwn yn Tresaith.

Darganfod Chwedlau a Storiau Ceredigion

Mae arfordir Ceredigion yn enwog fel lle da i weld morloi a dolffiniaid. Ewch ar daith mewn cwch a phwy a wyr - efallai cewch chithau gip ar eich morforwyn eich hunan!

Darganfyddwch fwy o chwedlau a storiau isod.

Morforynion
Mae amryw o hanesion am forforynion ar hyd arfordir Ceredigion. Ceir sôn am un yn nofio ger Aberystwyth, weithiau yn eistedd ar graig ar lan y môr. Roedd hi’n brydferth tu hwn a chanddi wallt tywyll a chroen golau. Wrth iddi blygu i lawr i yfed, deuai ei chynffon tywyll i’r golwg.

Ceir hanes am forforwyn arall a welwyd ar graig Carreg Ina ger Y Cei Newydd. Cafodd gymorth pysgotwyr i’w rhyddhau o’u rhwydi allan yn y môr. Fe’u rhybuddiodd am storm ar y gorwel mewn cydnabyddiaeth o’u cymorth.

Mae arfordir Ceredigion yn gartref i deulu mawr o ddolffiniaid a morloi. Tybed ai’r rhain oedd morforynion yr hen chwedlau?
Ymhlith yr hanesion am longddrylliadau ar hyd arfordir Ceredigion mae straeon am Frenin Wessex, tywysogesau Gwyddelig, morwyr a llongddryllwyr bwriadol.

Mae eglwys fach Sant Ina rhwng Y Cei Bach a’r Cei Newydd wedi ei chysegru i Ina Sant, sef Brenin Wessex y 7fed a’r 8fed ganrif. Ildiodd y goron gan droi at y bywyd mynachaidd. Yn ôl pob sôn ef oedd sylfaenydd Abaty Ynys Wydrin (Glastonbury) a lleoliadau mynachaidd eraill. Ceir hanes bod Ina wedi ei longddryllio yn yr ardal hon tra’n hwylio ym Môr Iwerddon. Fe’i achubwyd gan drigolion lleol ac adeiladodd yr eglwys i ddiolch iddynt.

Collwyd yr eglwys wreiddiol wrth i’r tir erydu ac adeiladwyd sawl eglwys yma cyn yr eglwys bresennol. Cysylltir Llanina hefyd ag ysbryd morwrol oedd yn dymuno cael ei gladdu ar y tir. Golchwyd y fynwent a’i fedd i ffwrdd gan y môr a dywedir bod ei ysbryd yn awr yn crwydro’r safle.

Cysylltir Tresaith â brenin o Iwerddon a wthiodd ei saith merch gecrus allan mewn cwch i’r môr heb hwyl na rhwyf. Fe’u cariwyd allan gan y cerynt gan lanio ar draeth Tresaith lle syrthiodd y saith mewn cariad â ffermwyr lleol, gan feddiannu saith fferm gorau’r ardal.

Ond mae hanesion am longddrylliadu’r Borth tipyn tywyllach. Ceir sôn am deulu o longddryllwyr arferai ddenu llongau i’r creigiau gan ddefnyddio golau ffug. Un noson stormus llwyddodd y brodyr i ddenu llong i’r creigiau ac wrth iddynt nesau at y llong er mwyn ysbeilio’r cargo fe sylwyd bod morwr dal yn fyw. Fe’i lladwydd ganddynt rhag ofn iddo eu hadnabod dim ond i sylweddoli yn ddiweddarach mai un o feibion y teulu ydoedd yn dychwelyd i’r Borth ar ôl blynyddoedd maith i ffwrdd.
​A ydych chi erioed wedi meddwl bod cri’r wylan yn swnio fel petai’n wylo neu’n hiraethu am anwyliaid? Mae chwedl o ardal Y Cei Newydd yn esbonio’r sŵn.

Roedd Dylan, brenin y môr, wedi clywed am brydferthwch tair chwaer oedd yn byw ger Y Cei Newydd. Arferai eu gwylio yn cerdded ar hyd y lan gan ryfeddu ar eu gwallt melyn, eu llygaid glas a’u croen gwyn fel yr ewyn. Roedd yn benderfynol o’u cipio i ffwrdd i fwy gydag ef o dan y dŵr ac yn ystod storm arw fe’u cipiodd ymaith i’w blasdy tanfor. Ond roedd y merched yn hiraethu am eu tad a mynnodd y tair eu bod yn cael dychwelyd i ymweld ag ef. Edifarhaodd Dylan, ond ni allai ddychwelyd y merched at eu tad. Yn hytrach defnyddiodd ei bwerau fel brenin y môr i’w troi’n wylanod fel eu bod yn perthyn i’r tir a môr. Byddent yn cadw cwmni i’w tad ar hyd y traeth liw dydd, ond hiraethant am y môr, ond pan fyddent yn hedfan dros y môr byddent yn hiraethu am y tir. Ai dyma paham mae cri’r wylan mor drist?

Mae Dylan Thomas hefyd yn cyfeirio at wylanod yn ei gerddi. Mae’n bosib bod hen forwyr Y Cei wedi adrodd y chwedl hon a hanesion eraill iddo.