Skip Ribbon Commands
Skip to main content

Cranogwen - capten llong

Merch i gapten llong oedd Sarah Jane Rees (1839 - 1916) ac arferai fynd gyda ei thad i forio. Er fod hyn yn anghyffredin iawn i ferch, cafodd yr hawl i fod yn gapten ar ei llong ei hun, ond cyflawnodd llawer mwy.

JBAX4359.JPG

Cranogwen

Merch i forwr oedd Sarah Jane Rees, ac roedd wrth ei bodd yng nghwmni ei thad ar y mor. Nid sgiliau traddodiadol merched oedd yn dwyn ei diddordeb. Felly aeth ati, gyda cefnogaeth ei rhieni i ddysgu sgiliau morwriaeth yn y Cei Newydd, ac yna yn Lerpwl a Llundain, gan ennill tystysgrif capten iddi ei hun. 

Golygai hyn y gallai Sarah Jane fod yn gapten ei llong ei hunan, ond yn hytrach, dewisodd Sarah aros yn ardal Llangrannog i drosgwlyddo ei gwybodaeth a'i sgiliau i ddynion ifanc yr ardal ac i ddysgu plant yr ardal i ddarllen ac ysgrifennu ac i werthfawrogi cherddoriaeth. Yn ogystal a cynnal ysgol forwriaeth, roedd yn athrawes yn yr ysgol leol ym Mhontgarreg, ac yn athrawes Ysgol Sul, a sefydlodd y 'Band of Hope' cyntaf yn yr ardal.

Roedd Sarah Jane Rees (1839-1916) hefyd yn fardd llwyddiannus, a hithau dim ond yn ei hugeiniau. O dan ei henw barddol, Cranogwen, hi oedd y ferch gyntaf i ennill coron yr Eisteddfod Genedlaethol ym 1865, gan guro sawl bardd adnabyddus yn y fargen.

Er mai Llangrannog eidd ei chynefin, teithiodd Cranogwen yn helaeth fel siaradwr cyhoeddus poblogaidd, gan ymweld a nifer o leoliadau ar draws yr Unol Daleithau. 

Roedd Sarah Jane yn ymgyrchydd dros hawliau merched; sefydlodd fudiad dirwestol i fenywod a bu’n olygydd cylchgrawn Cymraeg i ferched ' Y Frythones'. 

mae Cranogwen yn dal i ysbrydoli pobl heddiw. Roedd un un o bum merch i'w henwebu ar gyfer cofeb mewn ymgyrch gan y BBC yn ddiweddar, ac mae grwop o feirdd a pherformwyr benywiadd wedi dewis Cywion Cranogwen fel enw. 

Beth am fynd ati i ddysgu hwylio, neu i wneud chwaraeon dwr eraill?  Gall trefnwyr gweithgareddau yng Ngheredigion eich helpu i ddysgu sut i fwynhau’r syrff a thonnau Bae Ceredigion yn ddiogel.

Mae clybiau hwylio yn Aberystwyth, Aberaeron, Y Cei Newydd, Tresaith ac Aberteifi, ac mae clybiau rhwyfo ar hyd yr arfordir hefyd. Chwiliwch am ddigwyddiadau hwylio a hwyl y traeth yn ein rhestr digwydiadau.