Skip Ribbon Commands
Skip to main content

Owain Glyndwr

Mae sawl lleoliad yng Ngheredigion, lle gallwch olrhain hanes Owain Glyndwr - un o arwyr mawr ein cenedl - o lannau'r Teifi yn Llandysul i Aberystwyth a llethrau Pumlumon.

 

Owain Glyndwr

Er na fagwyd Owain Glyndwr yng Ngheredigion, roedd ei wreiddiau yn ddwfn yn y rhanbarth, gan ei fod yn ddisgynydd i Dywysogion y Deheubarth. Mae sawl man y gallwch ymweld â nhw yng Ngheredigion sydd yn rhan o’i hanes.

Roedd gan hynafiaid Owain Glyndwr dir yn ardal Iscoed, Llandysul, a gwyr Llandysul oedd y rhai cyntaf i ymuno ag Owain yn ei ymgyrch yn erbyn brenin Lloegr yn 1400. Fel dial, cipiodd y brenin dir teulu Owain yn yr ardal.

Ym Mehefin 1401 ennillodd Owain ei frwydr fawr gyntaf dros fyddin Harri’r IV ar Fynydd Hyddgen ar lethrau Pumlumon. Dialodd Harri'r tro yma gydag ymosodiad ar Ystrad Fflur, gan orchymyn ei filwyr i luesta yn eglwys yr Abaty. Cipiodd Owain gastell Aberystwyth yn 1404 a bu rhaid i fyddin Harri encilio.

Ysgrifennodd Owain at Charles VI, Brenin Ffrainc i geisio cael cytundeb rhwng Cymru a Ffrainc. Trefnodd Senedd gyntaf Cymru​ ym Machynlleth, sydd mewn lleoliad strategol rhwng Gwynedd i’r gogledd, Powys i’r dwyrain a Cheredigion a’r Deheubarth i’r de. Roedd hefyd wedi bwriadu sefydlu Prifysgol i Gymru. Lluoedd Harri a oresgynodd bryd hynny, ond ni fradychwyd Owain fyth.

Gallwch weld llythyr Owain Glyndwr at Frenin Ffrainc yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth. Mwynhewch dangnefedd adfeilion Abaty Ystrad Fflur, ac ymwelwch â Senedd-dy Owain Glyndwr ym Machynlleth. Cerddwch lwybrau Pumlumon uwch cronfa Nant y Moch a darganfod Hyddgen​ a Meini Cyfamod Glyndwr, a dychmygwch ddewrder dynion y gorffennol.