Skip Ribbon Commands
Skip to main content

Morwyr a Smyglwyr

Mae arfordir Ceredigion yn frith o borthladdoedd bychain fel Aberteifi, Aberaeron, Y Cei Newydd, ac Aberystwyth a phentrefi sydd â hanes morwrol cyfoethog fel Aberporth, Llangrannog, Aberarth, Llanon Llansanffraid a'r Borth. Cychod pysgota neu hamdden sydd yn harbyrau Ceredigion heddiw ond ‘slawer dydd roeddent yn fwrlwm prysur o fasnach ac yn allweddol i economi cefn gwlad Ceredigion.

Porthladd mwyaf Cymru

Aberteifi oedd ail borthladd prysuraf Cymru erbyn y ddeunawfed ganrif, gyda nifer o warysau a gweithfeydd ar hyd glan y Teifi a'r Mwldan. Gyda cyflenwad da o goed ar gael yn lleol, bu diwydiant adeiladu llongau yma ers i Aberteifi dderbyn siartr frenhinol yn y 16eg ganrif.

Adeiladwyd llongau ar hyd yr arfordir o Aberteifi i Ynyslas. Cofnodir bod 240 wedi eu hadeiladu yn Y Cei Newydd a 280 yn harbwr Aberystwyth. Adeiladwyd llongau hyd yn oed ar draethau Llangrannog, Y Cei Bach, Aberarth a Llansantffraid. Ym 1900, roedd 213 o longau wedi’u cofrestru yn harbwr Aberystwyth, ac yn cyflogi rhyw 900 o forwyr, yn ddynion a bechgyn.

Masnachu ar hyd yr arfordir a theithio'r byd

Cynhyrchwyd pob math o nwyddau yn lleol, o angorau i raffau a hwyliau. Roedd gan Y Cei Newydd chwe llofft hwyliau ar un adeg a thri chwmni yn trefnu yswiriant i’r llongau.

Edrychwch ar y panel tollau yn Harbwr y Cei Newydd i weld yr ystod o nwyddau ddeuai i'r lan yno.

Byddai rhai llongau yn hwylio ar hyd yr arfordir yn unig, yn masnachu calch a glo, tra byddai eraill yn hwylio i bedwar ban byd - i'r Almaen a phorthladdoedd Môr y Gogledd a'r Baltig ac i Ogledd America i gasglu coed ac i Dde America i gasglu gwrtaith adar. 

Gadael am fyd newydd

Roedd llongau teithwyr yn fodd i hwyluso allfudo ar raddfa fawr hefyd. Yn dilyn methiant cynhaeaf 1816 aeth miloedd i chwilio am fywyd gwell yn yr Unol Daleithiau, Canada ac Awstralia. Byddai llongau fel yr Albion, Fair Cambria neu’r Active yn gwasgu teithwyr i mewn i’w cludo i New Brunswick a New Jersey, ac yn dychwelyd i Gymru’n llawn coed. Yn 1818 ymfudodd 27 teulu o ardal Cilcennin a'r Mynydd Bach i ymgartrefu yn Ohio yn yr Unol Daleithau. Mae'r cysylltiadau teuluol rhwng Cymru ac Ohio yn dal yn gryf ac yn ystod 2018 bydd nifer o ddigwyddiadau yn cael eu cynnal yn ardal Aberaeron i goffhau daucanmlwyddiant yr ymfudo.

Teuluoedd y Môr

Mae morio yn y gwaed yng Ngheredigion gyda cenedlaethau o forwyr wedi eu magu yng nghymunedau arfordir Ceredigion fel y Borth, Llanon Llansantffaid a Llangrannog. Daeth y nifer uchaf o’r Cei Newydd a threfi Aberteifi, Aberystwyth ac Aberaeron. Darllenwch hanes teuluoedd Y Borth yma, neu darllenwch hanes teulu'r Cilie - beirdd gwlad a morwyr o fri o Langrannog.

Roedd merched yn cyfrannu i addysg y morwyr - sgiliau môr a siarad Saesneg. Un o'r merched mwyaf adnabyddus oedd Sarah Rees - 'Cranogwen',  gynhaliai ysgol forwra yn Llangrannog yn ogystal a bod yn fardd, cerddor, ac arweinydd dirwest.

Fe welwch dai ar hyd strydoedd Aberaeron sy’n dwyn enwau llefydd egsotig tramor fel y Gambia a Bari neu enwau llongau. Dilynwch y llwybr hanes trwy dref Aberaeron i ddod o hyd i’r plac sy’n cofnodi enwau’r llongau a adeiladwyd yn Aberaeron.

Mae mynwentydd y sir hefyd yn datgelu llawer am y cysylltiad â’r môr - ewch am dro o gwmpas mynwentydd Llanfihangel Genau’r Glyn, Llanrhystud, Llanon, Llanddewi Aberarth, Llanerchaeron, Henfynyw, Llanarth, Llanina, Aberporth ac Aberteifi, a gwelwch gofeb urddasol Crannogwen ym mynwent eglwys Llangrannog.

Cuddfannau smyglwyr

Yn ogystal â’r harbyrau lleol mae arfordir hardd Ceredigion yn llawn cildraethau a chilfachau oedd yn fannau cuddio perffaith i smyglwyr eofn, yn enwedig o gwmpas Cwmtydu a Llangrannog.

Yn y 18fed ganrif, roedd smyglo halen yn rhemp yng Ngheredigion, gan ei fod yn cael ei ddefnyddio i halltu cig moch a phenwaig - allforion pwysig. Gan fod halen ar gael am hanner y pris yn Iwerddon, roedd yma fasnach anghyfreithlon brysur. Sylwch ar enwau llecynnau ar hyd llwybr yr arfordir fel Cilfach yr halen ger Aberaeron ac Ogof yr Halen ger Llangrannog. Byddai gwinoedd a gwirodydd yn cael eu smyglo hefyd ac yn cael eu storio mewn ogofâu cudd, o olwg swyddogion y tollau.


Arfer arall yn y 18fed ganrif oedd defnyddio goleuadau lampau i ddenu llongau aty creigiau i'w llongddryllio a i ysbeilio eu cargo. Roedd y gweithgaredd didostur yma mor rhemp ar un adeg nes gorfodi pregethwyr i gollfarnu’r arfer yn hallt iawn o’u pulpudau.

Un smyglwr enwog am ei fileindra ym mlynyddoedd cynnar y 18fed ganrif oedd William Owen o Nanhyfer, a gyfaddefai ei fod wedi lladd o leiaf chwech o ddynion cyn cael ei ddal a’i grogi ym 1747. Cymeriad lliwgar arall - na chafodd ei ddal - oedd Sion Cwilt o ardal Cwmtudy. Mae nofelau T Llew Jones - a oedd ei hun yn frodor o Geredigion - yn llwyddo i greu naws y cyfnod hwn i’r dim.

Mae casgliad arbennig o beintiadau morwrol ac arddangosfa am hanes morwrol Ceredigionyn Amgueddfa Ceredigion.​