Skip Ribbon Commands
Skip to main content

Bryngaerau ac Arwyr

Mae bryngaerau yn dysteb i breswylwyr cynnar Ceredigion ac mae 170 o fryngaerau ac amgaeadau ar draws y sir a llawer ohonynt yn gysylltiedig â chwedlau awyr a thywysogion. Mae Trichrug uwch Dyffryn Aeron yn enghraifft wych o garn gladdu. Oddi yma cewch olygfeydd gwych ar draws Bae Ceredigion.

Bryngaerau ac Arwyr

Ceir meini hirion, o bosib o’r Oes Efydd, yn Mynyddoedd y Cambria sydd yn aml yn gysylltiedig â chwedlau. Mae’n bosib bod y pâr o gerrig ‘Buwch a llo’ ger bryngaer Dinas yn nodi’r tramwy o Glarach tuag at Pumlumon.

Pendinas, sy’n sefyll yn urddasol uwchben Aberystwyth ac yn wynebu gogledd a de ar hyd yr arfordir ac i mewn i’r tir tuag at Fynyddoedd y Cambria, yw o bosib y mwyaf nodedig o fryngaerau Ceredigion. Mae’r tŵr a godwyd yn gofeb i Dug Wellington (1852) ar y safle yn gymharol ddiweddar.

Mae enwau’r bryngaerau yn amrywio o’r disgrifiadol syml fel Y Gaer Fawr a Phen y Castell i enwau sy’n tanio’r dychymyg, fel Castell Rhyfel a Chastell Nadolig - lleoliad lle darganfyddwyd pâr o lwyau efydd siâp dalen sydd, erbyn hyn, yn cael eu cadw yn Amgueddfa’r Ashmolean yn Rhydychen.

Mae amryw o’r bryngaerau yn amlwg i’r llygad ac eraill yn gudd mewn coedwigoedd, tra bo Castell Bach a Phen y Badell yn edrych allan ar draws y môr a gellir cyrraedd atynt o lwybr yr arfordir. Mae rhai wedi eu cysylltu â straeaon a chwedlau megis Pencoed Foel gel Llandysul neu Gastell Olwen ger Llanbedr Pont Steffan.