Skip Ribbon Commands
Skip to main content

Stori Ceredigion

Ymwelwch â bryngaerau hynafol a harbyrau lliwgar, mwyngloddiau diwyddiannol ac eglwysi a chapeli; a dewch o hyd i drefi a phentrefi yn llawn hanes a chymeriad. Dechreuwch yn Aberystwyth gydag ymweliad ag Amgueddfa Ceredigion, lle cewch gyflwyniad i dreftadaeth y sir, a chyfle i bori’n ddyfnach yn Archifau Ceredigion. Hefyd yn Aberystwyth mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru gydag arddangosfeydd a digwyddiadau sy’n dehongli treftadaeth Cymru ben baladr. Gerllaw mae Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru gyda’i gasgliadau o luniau, mapiau a dogfennau yn dehongli hanes Cymru.

Hanes Ceredigion

O ble ddaeth yr enw Ceredigion?

Ceredig oedd mab y brenin Cunedda, brenin o’r 5ed ganrif o dras Rhufeinig-Brydeinig a’i wreiddiau yn yr Hen Ogledd.  Amddiffynnodd yr ardal honno rhag y Pictiaid a’r Gwyddelod ac ef oedd sylfaenydd Gwynedd. Rhoddodd ardaloedd yng Nghymru i’w feibion, felly, dyma wlad Ceredig.

Yn ddiweddarach, ar ôl i Edward drechu Llywelyn ein Llyw Olaf yn 1282, rhannwyd tiroedd yr hen ranbarthau yn siroedd. Y dref sirol yw Aberteifi, a fu ar un adeg yn borthladd prysur.

Ond mae hanes Ceredigion yn hŷn fyth ac mae olion bod dyn wedi byw yma rhyw 6,000 o flynyddoedd yn ôl adeg yr Oes Neolithig. Mae archeolegwyr a haneswyr yn dal i ddatgelu hanes cudd Ceredigion ar safleoedd ar hyd a lled y sir. Yn ogystal a phlasdai, cestyll a chanolfannau treftadaeth, mae yma brosiectau adnewyddu mawrion, cloddfeydd archaeolegol a llwybrau i’w dilyn i’ch ysbrydoli i bori ymhellach.