Skip Ribbon Commands
Skip to main content

Heddwch a Chrefydd

Mae gan Geredigion dreftadaeth gyfoethog sy’n gysylltiedig â phobl a’r mannau tawel y gellir ymweld â hwy, o eglwysi Celtaidd cynnar i fannau sy’n gysylltiedig â Dewi Sant a chwyldro a diwygiadau Methodistaidd y ddeunawfed a’r ugeinfed ganrif. Heddiw mae capeli ac eglwysi ar draws Ceredigion yn croesawu ymwelwyr. Chwiliwch am y Llefydd llonydd yma ger arfordir Bae Ceredigion ac ym Mynyddoedd y Cambria.

Heddwch a Chrefydd

Daeth y ddeunawfed ganrif â’r diwygiad efengylaidd a thŵf anghydffurfiaeth. Daeth Cilgwyn ger Llangybi yn ffocws ar gyfer tai cwrdd Presbyteraidd yn nyffrynnoedd Teifi ac Aeron, ardaloedd a ddatblygodd yn gadarnleoedd anghydffurfiaeth yng Nghymru. Pentref Llangeitho oedd calon y mudiad a denwyd tyrfaoedd enfawr o bell ac agos i glywed Daniel Rowland yn pregethu yno.

Adeiladwyd capeli gan ffermwyr a mwyngloddwyr, a chapel Soar y Mynydd ar lwybr y porthmyn yn unigeddau mynyddoedd y Cambrian gyda’r mwyaf anghysbell a thawel. Fe’i hadeiladwyd gan Ebenezer Richard, tad Henry Richard yr apostol heddwch.

Ymwelwch â Llangeitho i gofnodi 300 mlynedd ers geni Daniel Rowland a darganfod sut y parhaodd y cyffro yn y pentref tan yr ugeinfed ganrif o dan Dr Martin Lloyd Jones, pregethwr carismatig arall. Nepell o Langeitho mae ardal y Smotyn Du lle mae 13 o eglwysi Undodaidd. Rhoddwyd yr enw hwn ar yr ardal rhwng Aberaeron a Llanbedr Pont Steffan gan Fethodistiaid Presbyteraidd a oedd yn rhwystredig o ganlyniad i gryfder yr eglwysi Undodaidd​.

Dilynwch Lwybrau Ffydd Ceredigion - Llwybr Ffydd y Cilgwyn a Llwybyr Ffydd y Smotyn Du - i ddarganfod cysylltiadau pell gyrhaeddol â Cheredigion o Awstralia i America.