Skip Ribbon Commands
Skip to main content

Mynyddoedd y Cambria a Mwyngloddio

Credir mai yng Nghwmystwyth ym Mynyddoedd y Cambria mae un o fwyngloddiau hynaf Ewrop. Cloddiodd y Rhufeiniaid am aur yn Nolaucothi yn iseldiroedd Mynyddoedd y Cambria i’r dwyrain o Lanbedr Pont Steffan a bu mynachod Ystrad Fflur yn cloddio am arian a phlwm hefyd.

Arian, Plwm ac Aur

Dyma ardal a ddatblygodd yn ganolfan fwyngloddio am arian a phlwm yn y ddeunawfed a’r 19eg ganrif. Dros y canrifoedd denwyd pobloedd i’r ardal gan y cyfoeth o fwynau oedd yma. Un o'r arloeswyr oedd Syr Hugh Middleton a gymerodd les ar sawl cloddfa yn Ngheredigon gan gynnwys Cwmsymlog, Cwmerfyn, Goginan, Cwmystwyth ac Alltygrib ger Talybont. Ennillai tua £18,000 y flwyddyn o'r arian a'r plwm o'u fwynfeydd.  Yn nyddiau prysuraf y diwydiant denwyd gweithwyr i’r ardal o ardaloedd mwyngloddio eraill fel Cernyw a Dyfnaint a hyd yn oed yr Eidal a’r Almaen.  Mewn cofnod gan Lewis Morris, yr archwiliwr mwyngloddiau, sonir bod cynifer o ieithoedd yn cael eu siarad ym mwynglawdd Esgair-y-mwyn yn 1755 nes iddo ei gymharu â Babel. Erbyn 1870 roedd tua 10,000 o weithwyr yn gysylltiedig â’r diwydiant.

Ewch i ymweld â’r Silver Mountain Experience yn hen gloddfa Llywernog a dilynwch lwybrau Ysbryd y Mwynwyr ym Mynyddoedd y Cambria i ddarganfod Cwmsymlog, Cwm Ystwyth a lleoliadau eraill yn gysylltiedig â’r diwydiant. Hefyd gwelwch yr olwyn ddwr drawiadol o’r cyfnod hwn yn Ffwrnais ger Egwlysfach ac un arall ym Mhontrhydygroes. Gallwch ymuno yng ngweithgaredd archwilio a chofnodi gyda digwyddiadau diddorol gyda Ymddiriedolaeth Cadwraeth Mwynfeydd Cymru.