Skip Ribbon Commands
Skip to main content

Pererinion a Thywysogion

Mae treftadaeth grefyddol Ceredigion yn gyfoethog iawn gyda llefydd diddorol i’w canfod o ddyddiau cynharaf Cristionogaeth i ddiwygiadau’r 18fed ac 20fed ganrif.

Pererinion a Thywysogion

Yn ôl traddodiad, ganwyd a magwyd Dewi Sant yma yng Ngheredigion. Dywedir iddo ddysgu nofio yn nyfroedd Bae Ceredigion a derbyniodd ei addysg yn Henfynyw, ger Aberaeron.  Mae Ceredigion hefyd ar lwybr y pererinion i Dŷ Ddewi o’r gogledd a’r dwyrain, gyda phererinion yn torri’r daith yn eglwysi’r Mwnt a Phenbryn ar y ffordd. Ceir yr arysgrif 'CORBALENGI IACIT ORDOVS' ar garreg ger Penbryn sy’n cofnodi man gorffwys aelod o lwyth yr Ordofviciaid o ogledd Cymru. Mae yma eglwysi a adeiladwyd ar safleoedd cyn Cristnogol gyda’u mynwentydd crwn yn dyst o’r cyfnod - chwiliwch am eglwys Llanwenog yn nyffryn Teifi, eglwys Pontsian yn nyffryn Clettwr, Ysbyty Cynfyn ger Pontarfynach a Phenbryn ar yr arfordir.

Mae nifer o gerrig arysgrifeidig ar draws Ceredigion. Ceir carreg o oes y Llychlynwyr yn Eglwys Dewi Sant, Llanddewi Aberaeth a cherrig ogham ym muriau eglwysi Llandysul a Thregaron.  Ceir cerrig cain hefyd yn Silian, ger Llanbedr Pont Steffan, Llanddewi Brefi, Gwnws ger Pontrhydfendigaid a Llanbadarn Fawr ger Aberystwyth.

Roedd Llanbadarn Fawr, fel Abaty Ystrad Fflur, yn safle bwysig o ran dysg. Copïwyd llawysgrifau yno gan y mynachod a gellir eu gweld heddiw yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Un o noddwyr Abaty Ystrad Fflur oedd yr Arglwydd Rhys o’r Deheubarth a gynhaliodd yr eisteddfod gyntaf yng nghastell Aberteifi yn 1176. Chwiliwch am gloddfeydd archaeolegol yn Ystrad Fflur lle, 500 mlynedd ar ôl diddymu’r mynachlogydd gan Harri’r VIII, mae gwir faint a chyfoeth yr abaty yn awr yn dod i’r amlwg.