EXPLORE CEREDIGION

Marchnadoedd a chynnyrch lleol

Darganfyddwch flasau a chrefftau Ceredigion drwy ei marchnadoedd. Mae prynu gan gynhyrchwyr lleol yn ffordd bleserus o ddod i adnabod trefi a chefn gwlad y sir.

Jars of Welsh wildflower honey displayed on a market stall

Hafan   /   Cynllunio eich ymweliad   /   Bwyd a diod Ceredigion

Read in English

Blas y tymhorau

Chwiliwch am lysiau, mêl, cawsiau, teisennau a chyffeithiau wrth grwydro stondinau a siopau fferm. Mae marchnadoedd yn gyfle i ofyn cwestiynau, dysgu am y cynnyrch a mynd â rhywbeth arbennig adref.

Trefi â thraddodiad masnachu

Mae neuaddau marchnad Aberystwyth ac Aberteifi yn rhan o hanes masnach y sir. Mae marchnadoedd cynnyrch a chrefftau hefyd wedi bod yn rhan o fywyd trefi ar draws Ceredigion. Gwiriwch ddyddiadau, lleoliadau ac oriau cyfredol gyda'r trefnydd cyn teithio.

Darganfod mwy